Straeon y Pentan/Ci Hugh Burgess

Oddi ar Wicidestun
Wiliam y Bugail Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Cŵn

Ci Hugh Burgess

EBE F'ewyrth Edward,—

Yr wyf wedi son wrthyt o'r blaen am Thomas Burgess, giaffer ffactri gotwm yr Wyddgrug. Yr oedd ei wraig blwc yn iengach nag ef, ac yr oedd ganddynt un plentyn, bachgen oddeutu naw oed. Er mai dyn lled frwnt, fel y dywedais, oedd Burgess, yr oedd yn hoff iawn o'i fachgen, ac yn ei syrffedu 'mron â moethau, ac felly y gwnai Mrs. Burgess. Yn wir, credai llawer nad oedd gan yr hen Burgess a'i wraig amcan arall mewn bywyd ond dedwyddwch a phleser eu bachgen Hugh. Hoffter mawr Hugh oedd creaduriaid mudion, a thrwy garedigrwydd ei rieni yr oedd ganddo yn tŷ amryw fathau o adar, ac yn y buarth golomend, gwningod, mul bach, a wn i faint o bethau ereill, a chenfigenai bechgyn yr ardal at liosogrwydd ei dda byw. Elai Hugh i'r British School, yr hon oedd oddeutu milltir o'i gartref, a rhag iddo orfod cerdded ol a blaen, cymerai ei ginio mewn basged fach ddel gydag ef i'r ysgol.

Gyferbyn â'r British School, yn un o'r tai bychain hyny, wyddost, yr oedd dyn o'r enw Martin yn byw, yr hwn a enillai ei fywiolaeth, — yn ddigon gonest am wn i, — wrth werthu cnau, oranges, india rock, a phethau felly, a byddai yn ymweled yn gyson â marchnad Rhuthyn, Dinbech, a Gwrecsam. Gwyddel oedd Martin, a byddai ganddo fen fach ysgafn ar bedair olwyn, a'i thop yn fflat fel bwrdd, ar yr hon y cariai ei nwyddau i'r marchnadoedd, a'r hon a wasanaethai iddo fel stondin. Dau gi mawr a fyddai yn tynu y fen fach, ac wrth fyn'd i lawr y gelltydd neidiai Martin ar dop y fen, a byddai y cwn yn myn'd fel mellten. Ond byddai raid i Martin eu helpio i fyny y gelltydd. Bum yn synu ganoedd o weithiau at gryfder a gwasanaethgarwch cwn mawr Martin. Yr oedd ganddo dri o honynt, ac enw yr hynaf oedd Sam.

Yr oedd Sam wedi gweithio yn ddiwyd ar hyd y ffyrdd celyd am flynyddau lawer, ac wedi myn'd yn hen, a mi wyddost mai dengmlwydd yw canmlwydd ci. Ond yr oedd Sam yn ddeuddeng mlwydd oed, ac un diwrnod cloffodd yn dost, ac ni fedrai mwyach dynu'r fen. Bu Sam yn invalid yn nghut Martin am wythnosau, ac elai Hugh Burgess efo rhan o'i ginio iddo bob dydd y byddai yn yr ysgol, ac yr oedd y ddau wedi myn'd yn ffrindiau mawr. Ni choleddai Martin obaith y byddai i Sam wella fel ag i fod yn alluog i ail afael yn ei orchwyl o dynu'r fen, ac o herwydd hyny ni roddai iddo haner ddigon o fwyd, ac oni bai am Hugh Burgess credai Sam y buasai wedi llwgu er's talwm. Un canol dydd pan oedd Hugh yn cymeryd rhan o'i ginio i Sam, gwelai Martin yn myn'd o'i flaen i'r buarth, a gwn dan ei gesail. Rheddld Hugh a gofynodd i Martin beth oedd yn myn'd i'w wneyd.

"Saethu Sam," ebe Martin, "achos fydd o byth da i ddim."

Torodd Hugh i grio yn enbyd, a chrefodd am gael Sam gydag ef gartref, yr hyn a ganiatawyd ar unwaith, oblegid yr oedd yn dda gan Martin gael yr hen gi oddiar ei ddwylaw. Yr oedd Sam yn ymddangos fel pe buasai yn deall yr ymgom rhwng Hugh a Martin, oblegid pan drodd ei hen feistr ei gefn, gan gymeryd y gwn gydag ef i'r tŷ, ysgydwodd Sam ei gynffon, fel pe buasai pwysau mawr wedi myn'd oddiar ei feddwl. Gwelsai Sam ambell gydymaith iddo yn cael ei saethu wedi iddo gloffi a methu tynu'r fen. Y noson hono cymerodd Hugh Sam gydag ef gartref, a mawr oedd ymdrech yr hen gi ar ei drithroed yn ei ddilyn.

Er mor dyner oedd rhïeni Hugh, cafodd y bachgen gerydd llym am ddod a'r fath greadur mawr, palfog, blewog, a newynog yn agos i'r tŷ, a mynai yr hen Burgess saethu y ci ar unwaith. Ond gwyddai Hugh am wendid ei dad, a dechreuodd wylo yn chwerw dost. Caniatawyd i Hugh droi y mul bach allan, a rhoi ei gut i Sam, ac erbyn hyn, wrth weled y ci yn cerdded ar ei drithroed, ebe'r hen Burgess yn chwareus, –

"Mae'n hawdd gwybod fod y creadur druan wedi bod yn byw yn ymyl yr ysgol."

"Sut felly?" ebe Mrs. Burgess.

"Am ei fod wedi dysgu simple addition, — three down carry one," ebe Burgess.

Trwy lawer o ofal, caredigrwydd, a digon o ymborth, cryfhaodd Sam yn rhyfeddol, ond ni wellhaodd ei droed byth. Bob nos wedi i Hugh ddod adre o'r ysgol, gwelid Sam yn ei ddilyn yn fusgrell hyd y ffyrdd. Y pryd hwnw yr oedd ar lyn mawr y ffaatri gwch bach hynod o ddel, ond'ni chai neb ei gyffwrdd oddigerth perchenog a giaffer y ffactri a'u teuluoedd. Yr oedd Hugh wedi dysgu rhwyfo y cwch yn fedrus dros ben. Un min nos hwyrddydd haf aeth Burgess a'i wraig a Hugh am dro at y llyn, a Sam yn hoblan wrth eu sodlau. Mynai Hugh ddangos i'w dad a'i fam mor fedrus y gallai drin y cwch. Yr oedd ei fam yn erbyn, am ei bod yn dechreu twllu.

"Gadewch iddo," ebe Burgess, a gwthiodd Hugh y cwch yn hwylus o'r lan.

Pan oedd yn nghanol y llyn, edrychai yr hen Burgess arno gyda llygaid edmygol, ac ebe fe, —

"Bachgen garw fydd hwn os caiff o fyw."

Prin yr oedd y geiriau dros ei wefusau pryd y collodd Hugh ei afael o'r rhwyf, ac y syrthiodd dros ymyl y cwch i'r dwfr dwfn. Gwaeddodd y tad a'r fam mewn gwallgofrwydd, ond nid oedd neb o fewn clyw i roi cynorthwy iddynt. Yr un foment neidiodd yr hen gi i'r dwfr, ond yr oedd ei droed anafus yn ei rwystro i notio ond yn anhwylus iawn. Daeth pen Hugh i'r golwg, ac aeth o'r golwg drachefn, ac felly ddwywaith neu dair, tra yr oedd Sam druan yn ymdrechu ei oreu i fyn'd ato. Collasant olwg ar y ci a'r bachgen, a dechreuodd Mrs. Burgess rwygo ei dillad, heb wybod beth oedd yn wneyd. Ond yn y funud gwelent ben Sam uwchlaw wyneb y dwfr, ac yr oedd yn cyfeirio at y lan, ac fel pe buasai yn llusgo rhywbeth ar ei ol, ac yn ymddangos yn union yr un fath â phan fyddai er's talwm yn llusgo'r fen — ei ben i fyny, ac yn ysgwyd ei glustiau i ymlid y pryfaid ymaith. Daeth yn fuan yn ddigon agos at Burgess iddo weled fod ganddo rywbeth rhwng ei ddannedd, — siaced Hugh ydoedd, ïe, ac yr oedd Hugh yn cael ei lusgo i'r lan gan Sam. Wedi cael y bachgen ar dir sych bu yn hir iawn yn dod ato ei hun; ac yr oedd Sam, pe buasai rhywun yn sylwi arno, wedi ysgwyd y dwfr lawer gwaith oddiar ei flew hirion, yn gwylio adferiad Hugh lawn mor bryderus a neb. Ond druan o Sam yn ei henaint, yr oedd wedi gwneyd mwy na'i allu y noson hono. Ni fedrai gerdded gartref. Cyrchwyd handcart o'r ffactri i'w gludo, ond bu Sam farw cyn y bore, Bu agos i Hugh dori ei galon am y ci, a dywedai y cymydogion na wyddent pa un ai ei lawenydd am arbediad ei fachgen, ai ei ofid am farwolaeth Sam, oedd amlycaf yn yr hen Burgess. Gwnaeth yr amgylchiad hwnw les mawr i'r giaffer, — bu yn fwy tyner byth wrth bawb. Gwnaeth arch o dderw i Sam, a chladdodd ef yn yr ardd, a gosododd gareg ar ei fedd. Wn i ddim ydyw'r gareg yno eto, ebe F'ewyrth Edward.