Straeon y Pentan/Y Ddau Deulu

Oddi ar Wicidestun
Rhy Debyg Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Y Ddau Deulu

Y MAE arnaf ofn, ebai F'ewyrth Edward, fod tuedd mewn rhai pobol yn y dyddiau hyn i feddwl nad oes a wnelo Duw ddim ag amgylchiadau tymorol dyn. Yn wir mi glywais yn ddigon hyf mai hap a damwain a phawb drosto ei hun ydi hi yn y fuchedd hon. Ac mewn ystyr dydio ddim yn rhyfedd fod rai yn dweud yn mynd i gredu felly, achos yr ydym yn gweled mor fynych y mae y dyn drwg anonest yn llwyddo, a'r dyn da a chywir yn aflwyddo. Ond yn mhlith y bobol oedd yn cael eu cyfrif yn bobol dda a ddarfu aflwyddo ag y dois i i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes, yr oeddwn, ymron yn ddieithriad yn gallu rhoi fy mys ar y rheswm o'u haflwyddiant. Yr oedd rhyw gancr, nad oedd yn ngolwg pawb, bob amser oedd yn achos o'r cwbwl. Os cei di fyw ddigon o hyd, ac os cymeri di sylw manwl o deuluoedd a phethau, mi gei allan yn y man fod Rhagluniaeth

yn dod a phethau i drefn, ac fel pe byddai yn cywiro ei hun yn y diwedd yn gwobrwyo daioni ac yn cospi drygioni. Dyma i ti stori am ddau deulu yr oeddwn yn eu hadwaen yn dda, ac y mae mor wir a dim a ddwedwyd erioed. Ond aros am funyd. Yr wyf wedi clywed dy fod yn printio rhai o'r straeon yr wyf yn eu hadrodd wrthyt, ac o herwydd fod amryw o'r ddau deulu yn fyw heddyw mi rof enwau eraill arnynt.

Yn Nyffryn Maelor, flynyddau lawer yn ol, yr oedd amaethwr ieuanc newydd briodi ac yn dal un o'r ffermydd goreu yn y wlad. Mi galwaf o yn Mr. Jones, y Wern. Dydw i ddim yn gwybod yrwan, os bum yn gwybod erioed, sut y gallodd o gymeryd ffarm mor dda; ond mi wn ei fod yn hollol ddi-ddysg. Yr oedd yn wr diwyd a medrus, a'r wraig can fedrused ag yntau, ac yr oedd y byd yn myn'd efo nhw a'u llwyddiant yn eglur i bawb. Tra na adawai Mr. a Mrs. Jones i neb fyn'd tu hwnt iddynt yn y ffair a'r farchnad ac am drin y ffarm a magu anifeiliaid, nid oeddynt yn ol i neb am eu ffyddlondeb a'u haelioni yn y capel. Gwyddai y cymydogion yn burion fod teulu y Wern, heblaw cynyddu eu stoc yn feunyddiol, yn casglu arian hefyd, ac yr oeddynt yn sefyll yn uchel yn syniad eu meistr tir. Aeth blynyddau heibio a ganwyd iddynt amryw blant. Yr oedd Mr. Jones wedi gorfod teimlo lawer gwaith yr anfantais o fod yn ddi-ddysg, a gofalodd roddi yr addysg oreu oedd i'w chael yn y gymydogaeth i'w blant, ac wedi iddynt dyfu i'r oedran cyfaddas, prentisiodd rai o'r bechgyn yn siopwyr. Yr oedd erbyn hyn wedi dyfod yn lled gefnog, pryd, ryw ddiwrnod, y daeth gŵr ifanc golygus ac wedi cael ysgol dda, i'r gymydogaeth fel llifiwr coed. Mi galwaf o yn Mr. Bellis. Nid oedd Bellis ond crefftwr cyffredin yn gweitho am ddeunaw swllt yr wythnos, ond yr oedd yn ddyn medrus a chraffty. Drwy ei fod yn aelod yn yr un capel a Mr. Jones, daeth Bellis a theulu y Wern yn gryn gyfeillion yn fuan. Yn mhen yr hir a'r rhawg, perswadiodd Bellis Mr. Jones i ddechreu ar y busnes coed – fod y wybodaeth ganddo ef, Bellis, a'r arian gan Mr. Jones, a thynodd ddarlun dymunol o'r broffit fawr a ellid wneud yn y busnes. Aeth y ddau yn bartneriaid - un gyda gwybodaeth a'r llall gydag arian. Aeth hyn yn mlaen am flynyddau, heb i mi fanylu, y canlyniad fu fod Jones yn myn'd dlotach dlotach bob dydd, a Bellis yn gyfoethocach. Yn y bartneriaeth yr oedd pen praffaf y ffon yn llaw y wybodaeth, sef Bellis. Y diwedd fu i'r bartneriaeth gael ei thori ac i Mr. Jones gael ei hun yn salach allan o rai canoedd o bunau na'r amser pryd nad oedd ganddo ond y wraig yn unig yn bartnar. Bu raid i'r bechgyn droi i'r byd i enill eu bywioliaeth, a gallwn adrodd wrthyt am yr ymdrech galed a fu arnynt; ond yr oedd Duw gyda'r bechgyn. Erbyn hyn yr oedd Bellis yntau wedi priodi, a'r peth cyntaf a wnaeth wedi tori ei gysylltiad a Mr. Jones oedd prynu melin fawr, a daeth yn fuan yn fasnachwr enwog, ac nid yn unig hyny, ond yn ŵr enwog yn yr enwad y perthynai iddo. Casglodd hylldod o arian a magodd blant gan eu gosod mewn sefyllfaoedd parchus. Ond bu Jones a Bellis farw, ac yr oedd arogl esmwyth ar ddydd claddedigaeth un o honynt, a thipyn o arddangosiad ar ddydd claddedigaeth y llall. Ond pa le y mae eu hepil erbyn hyn? Er fod epil Bellis ar un adeg yn berwi mewn arian, y maent hwy a'u cyfoeth wedi darfod o'r tir, a rhai o honynt yn gorwedd yn medd y meddwyn. Ond am linach teulu y Wern — hil hepil, yr oedd Rhagluniaeth yn diferu brasder ar eu llwybrau a phobpeth a wnelent yn llwyddo. Y mae y rhai sydd o honynt yn gorphwys oddiwrth eu llafur a'u henwau yn anwyl gan eu cydnabod, ac y mae amryw o honynt yn fyw, yn ddefnyddiol, ac un neu ddau o honynt yn llenwi y swyddau uchaf ac yn derbyn yr anrhydedd mwyaf y gall y wlad ei roddi arnynt. Wrth fyned yn mlaen mewn bywyd, sylwa fel mae Rhagluniaeth yn gwastadau pethau, ebe F'ewyrth Edward.

DIWEDD


—————————————


WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES & son. 56, HOPE STREET