Straeon y Pentan/Y Gweinidog

Oddi ar Wicidestun
Thomas Owen, Tŷ'r Capel Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Wiliam y Bugail

Y Gweinidog

Yn adnabod James Lewis? oeddwn debyg, ebai F'ewyrth Edward. A fydda 'i byth yn meddwl am dano heb i ryw dòn o dristwch dd'od dros fy ysbryd. Dyn anghyffredin oedd James. Methodistiaid oedd ei rieni, a James oedd eu hunig blentyn. Cadw siop fwyd yr oedd Dafydd Lewis. Nid oedd y siop ond bechan, ac er fod Dafydd yn ddiwyd a pharchus yn mhlith ei gymydogion, mewn trafferth y byddai beunydd i gael y ddeuben ynghyd. Er

yn hogyn yr oeddym yn arfer edrych ar James Lewis fel un oedd yn meddu mwy o dalent na holl fechgyn yr ardal, a'n rhoi ni gyd gyda'n gilydd. Yr oedd o mor bright, pan yn fachgen, fel y prophwydai llawer y byddai yn siwr o ddylu wedi tyfu i fyny. Pan yn bedair oed adroddai adnodau a phenillion nes synu pawb. Yn ddigon naturiol yr oedd ei dad a'i fam yn meddwl y byd o hono. Clod i galon ei dad, fe r'odd yr ysgol oreu fedrai i James, o'r fath ag oedd ysgolion y pryd hwnw. Clywais fy nhad yn dweyd lawer gwaith ei fod yn sicr fod Dafydd yn gwasgu arno ei hun er mwyn rhoi ysgol i Jim bach, fel y galwai ef. A rhyfedd, o drugaredd, fel y mae pethau wedi newid. Welaist di 'rioed fel y byddai pobl, a phobl go dda hefyd, yn beio Dafydd Lewis. Dwedai rhai mai ei falchder oedd y cwbl, dwedai eraill mai arwain ei fachgen i'r crogbren yr oedd wrth roi cymaint o ysgol iddo, a dwedai eraill yn ddigon speitlyd fod yn rhaid fod cadw siop yn talu yn dda. Bychan y gwyddent y bu raid i Dafydd fenthyca arian lawer gwaith gan fy nhad i dalu'r rhent er mwyn cyfarfod â chost ysgol James. Ond dyna oedd y ffaith; a chymaint oedd cenfigen a ffolineb rhai fel nad aent byth i siop Dafydd Lewis i wario ceiniog os gallent beidio. Er cymaint o brophwydo a fu y byddai i James y siop ddylu, parhau i gynyddu a dysgleirio yr oedd yr hogyn. Yr oedd yn ddysgwr diail; ond ei awyddfryd mawr oedd gallu siarad Saesoneg yn dda, ac yr oedd hyny yn 'sgleigdod mawr yr adeg hono. Yn wir, wrth glywed James pan oedd yn ddeg oed yn siarad Saesoneg yn llyfn a rhwydd, yr oeddym ni yr hogiau, yn edrych arno fel rhyw ail Ddic Aberdaron. Yr oedd llyfrau yn brinion yn yr ardal, a phan elai James i dai rhai o'r cymydogion a gweled yno lyfr nad oedd wedi ei ddarllen, ni chai ei fenthyg er gofyn — mor genfigenllyd oedd pobl. Parodd hyn i'r bachgen gymeryd benthyg y llyfrau heb ofyn, a chafodd y gair o fod yn lleidr llyfrau. Ond i ddiwallu ei enaid y trodd yn lleidr. Wedi i James orphen ei ysgol, aeth i helpio ei dad yn y siop, ond byddai yn darllen mwy nag a fyddai yn helpio, ac ni fyddai yn gwrthod neb o drust, ac felly llanwodd lawer ar lyfr y siop, fe ddwedid. Fel bechgyn talentog yn gyffredin yr oedd yn llawn o ysmaldod a direidi diniwed. Parodd hyn i'r hen flaenoriaid ei wylio yn fanwl a chilwgu arno. Cynhelid y pryd hwnw yr hyn a elwid yn seiat plant, ac wrth edrych yn ol ar y cyfarfodydd hyny rhaid i mi ddweyd mai prif amcan Pitar Bellis, y gŵr oedd yn gofalu am y seiat, oedd cadw James Lewis i lawr, drwy ei rwystro i adrodd gormod o adnodau neu ranau o'r pregethau — gwasgu James i lawr i lefel y plant eraill, ac nid eu codi nhw i lefel James. Wrth feddwl am eiriau câs Pitar Bellis, mae'n syn gen i feddwl sut yr oedd yr hogyn yn dod yno o gwbl. "Paid a bod mor dafodog, y ngwas i bydd yn fwy cymedrol wrth adrodd y bregeth, nei di, paid a bod mor barod efo dy ateb, aros nes i mi ofyn i ti," a geiriau cyffelyb oedd yr ymadroddion mwynaf a gai James, druan. Bu yn hir iawn heb gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, tra yr oedd eraill ieuengach a chyn ddyled a phost llidiart, wedi eu derbyn er's tro, a'r gwyn fwyaf oedd ganddynt yn erbyn James oedd ei fod yn troi ei wallt oddiar ei dalcen ac yn rhoi oel ynddo. Yr oedd hyny, ar y pryd, yn fwy trosedd na bod heb fedru'r Hyfforddur. Gallai James adrodd yr Hyfforddwr ar ei hyd, ac yr oedd yn fachgen honourable a charedig, ond ni thalai gan yr hen frodyr—yr oedd ganddo Q.P., ac yn rhy dafodog, fel y dywedai Pitar Bellis. Ac megis o. gywilydd, wrth ei weld yn hogyn mor dàl, y cafodd ei dderbyn o'r diwedd. Cychwynodd James gyfarfod i'r bechgyn ifinc, ac er nad oedd dim gwaeth yn myn'd yn mlaen ynddo nag areithio, darllen, ac adrodd am y goreu, buan y rhoddodd yr hen flaenoriaid stop arno. Ond, yn ddirgel, cawsom lawer cyfarfod yn warehouse Dafydd Lewis, lle cafwyd, nid yn unig ddarllen ac areithio, ond ambell bregeth gan James, weithiau yn Gymraeg, bryd arall yn Saesneg. Yr oeddym yn meddwl yn uwch o'r bregeth Saesneg am nad oeddym yn ei deall. Heb i mi gwmpasu, aeth y stori allan y medrai James bregethu yn ods o dda, ac felly y gallai hefyd. Yr oedd ychydig o aelodau yr eglwys yn credu fod James wedi ei eni i fod yn bregethwr — yr oedd yn ddoniol, yn wybodus ac yn olygus o ran corff, ac yr oedd ei gymeriad yn ddilychwin, a phan oedd oddeutu deunaw oed ceisiodd rhai gael ei achos yn mlaen, ac yr oedd yntau yn bur awyddus i hyny. Ond nid oedd siawns cael gan yr hen dadau yn y sêt fawr gydweled — yr oedd eisieu mwy o bwyll. Ac felly y bu James Lewis am oddeutu dwy flynedd—yn cael edrych arno fel un wedi ei fwriadu i bregethu, ond yn methu cael license. Yr adeg hono yr oedd gyda'r Annibynwyr Cymreig weinidog ieuanc — gŵr cymeradwy ac wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o bregethwyr. Aeth James ac yntau yn gyfeillion, a chyn pen hir gofynodd James am ei docyn i fynd at yr Annibynwyr. Agorodd pawb eu llygaid — gwelsant eu camgymeriad, ond yr oedd yn rhy hwyr. Yr wyf yn cofio yn dda fod rhai o honom ni, ei gymdeithion penaf, wedi ein gorchfygu yn lân gan ein teimladau wrth feddwl fod ein hen gyfaill doniol a charedig yn ein gadael, ac ni fuom yn brin o ymosod yn ein plith ein hunain ar yr hen frodyr. Yn mhen ychydig wythnosau yr oedd James yn pregethu ei hochr hi efo'r Annibynwyr, yn Gymraeg a Saesneg, nid oedd gwahaniaeth ganddo p'run, ac yr oedd sôn am dano hyd y wlad fel un o'r dynion ifanc mwyaf addawol a feddai yr enwad. Aeth hyn yn mlaen yr rhawg pryd y daeth teulu Saesnig o Lundain, oeddynt yn Annibynwyr, i'r gymydogaeth am fis er mwyn eu hiechyd. Clywsant James yn pregethu, ac yr oeddynt wedi dotio ato. Yn mhen rhai misoedd wedi i'r teulu ddychwelyd, gwahoddwyd James i Lundain i sypleio, fel y dwedir. Aeth yntau ac arhosodd yno. Toc ar ol hyn, clywsom ei fod wedi ei sefydlu yn weinidog ar eglwys flodeuog, ac fod y penodiad yn hapus, ac yntau yn dyfod yn ei flaen yn rhagorol. Aeth deuddeng mlynedd heibio, ac yn y cyfamser byddem yn clywed yn achlysurol am lwyddiant a phoblogrwydd James. Ond un diwrnod, pwy a welem yn yr hen gymdogaeth, ond James. Yr oedd golwg barchus arno, ond yr oedd rhywbeth tra gwahanol ynddo i'r hyn a fyddai arfer. Yr oedd yn brudd a distaw, ac yr oedd yn amlwg fod rhywbeth anghysurus wedi digwydd iddo, ac o herwydd hyny nid oedd neb yn ei holi. Fe ddaru niddeall yn union nad oedd yn bwriadu dychwelyd i Lundain. Yr oedd ei rïeni erbyn hyn wedi meirw er's peth amser, ond, fel y digwyddodd, yr oedd y siop a fuasent yn ei dal yn wag, a mawr oedd ein syndod pan aeth y gair allan fod James Lewis wedi cymeryd hen siop ei dad, yr hon a agorodd ar unwaith. Elai James i gapel yr Annibynwyr ar y Sabboth, ond yr oeddym yn deall na fyddai yn aros yn y gyfeillach, neu, fel y byddwn ni yn dweyd, y seiat. Ymddangosai ef a'r gweinidog, yr hwn a'i cododd i bregethu, yn bur gyfeillgar, a chredai llawer na wyddai neb ond Mr. Price am yr achos i James roi y weinidogaeth i fyny, ac ail-ddechreu busnes, ond dyfalai pobl lawer o bethau. Bychan oedd y busnes yn y siop, ond tybid fod James uwchlaw anghen. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am hir amser, ac yr oeddwn inau yn bur gyfeillgar efo James ac yn myn'd i'w siop yrwan ac yn y man, ond nid oeddwn erioed wedi gofyn iddo am eglurhad ar ei ymadawiad â Llundain, oblegyd gwyddwn ei fod wedi gwrthod egluro i amryw. Yr oeddwn yn ei siop un noson pan oedd yr hogyn yn rhoi y shutters i fyny, ac, am y tro cyntaf er pan ddaeth yn ol, gwahoddodd fi i'r tŷ. Yr oeddym yn hen ffrindiau, a "ti" "tithau" y byddem yn galw ein gilydd. Wedi ymgoinio tipyn am yr hen amser, mentrais ofyn iddo beth barodd iddo roi y weinidogaeth i fyny. Edrychodd arnaf fel pe buaswn wedi ei saethu, yna gosododd ei ben rhwng ei ddwylaw ar y bwrdd ac wylodd yn hidl. Gwelais fy mod wedi ei friwio, ac edifarheais ofyn y cwestiwn. Wedi iddo adfeddianu ei hun, atebodd fel hyn, hyd y gallaf gofio, —

"Edward, yr wyt ti a minau yn hen gyfeillion, a mi wn, ond i mi ofyn i ti, na wnei di ddim ail-adrodd yr hyn 'rwyf yn mynd i'w ddweyd, tra byddaf fi byw, gwna fel y mynot wed'yn. Rhag i ti feddwl ei fod yn rhywbeth gwaeth, dyma yr hanes i ti yn fyr. Gwyddost i mi gael fy sefydlu ar eglwys led gref yn Llundain. Ar y dechreu yr oeddwn yn bur bryderus a oedd gen i ddigon o adnoddau ar gyfer y gwaith. Gweithiais yn galed a diflino yn hwyr ac yn fore, ac yn y man teimlais fod Duw yn fy mendithio ac yn arddel fy llafur. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yno chwech o ddiaconiaid — dynion da a grasol, hawdd byw gyda hwy, ac yr oeddym yn gallu cyd-weithio yn rhagorol. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am flynyddoedd heb un hitch. Yn perthyn i'm heglwys yr oedd hen ferch — pe buasai yn hen hefyd, nid oedd fawr hŷn na minau – gyfoethog a dylanwadol. Yr oedd y ferch hon yn bobpeth ond prydferth. Ystyrid hi yr un fwyaf crefyddol o bawb o honom — ni byddai byth yn colli moddion y Sabboth na chanol yr wythnos. Ymwelai yn gyson â'r tlodion, ac yr oedd yn haner cadw rhai o honynt. Hi oedd ein Dorcas. Cyfranai at y weinidogaeth ac at achosion eraill gymaint a dwsin o'r rhai mwyaf haelionus, ac nid oedd terfyn ar ei charedigrwydd i mi, y gweinidog. Heblaw hyny, yr oedd wedi cael addysg dda, ac yn un hynod ddeallgar. Hawdd i ti gredu fod ei dylanwad yn yr eglwys yn fawr. Yn wir, ni byddem yn dychmygu am gychwyn unrhyw symudiad heb yn gyntaf ymgynghori â Miss Perks — dyna oedd ei henw — oblegid gwyddem y byddai raid i ni gyfrif ar ei phwrs, ac ni byddai hithau byth yn grwgnach, am ei bod yn sant, fel y credwn, yn gystal a bod yn gyfoethog. Disgwylid i mi, fel gweinidog, ymweled â phob aelod o'r eglwys yn eu tro, ond yn bur naturiol, fel y gellit feddwl, syrthiais i'r arferiad o ymweled â Miss Perks yn llawer amlach nag â neb arall, am y gallwn dreulio awr neu ddwy yn ei chwmni er mantais i mi fy hun. Yn aml iawn byddai ganddi lyfr newydd, ac os byddai wedi ei ddarllen cawn ef yn anrheg ganddi. Yr oeddwn yn ei mawrhau tu hwnt i bawb. Aeth hyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg, a gwyddai pawb fy mod yn ymweled â hi yn aml, yn amlach nag y dylaswn, hwyrach. Yn y ddeuddegfed flwyddyn o fy ngweinidogaeth dechreuodd Miss Perks fy ffoli am na fuaswn yn priodi; atebais inau nad oedd genyf amser i feddwl am hyny. Parhaodd i fy ffoli bob tro yr awn yno, nes yr oeddwn wedi diflasu ar ei stori, a dechreuais fynd yno yn anamlach. Un diwrnod gwahoddodd fi yno i dê, ac aethum inau, oblegyd nid gwiw oedd anufuddhau i Miss Perks. Ar ol tê, dwedodd wrthyf, dan gryn deimlad, ei bod wedi meddwl am danaf yn wr, ac nad oedd am gymeryd ei gwrthod. Dychrynais, oblegyd, er fy mod yn synied yn uchel am dani, y peth olaf yn fy meddwl a fuasai meddwl am ei phriodi. Dwedais wrthi fy mod yn bur ddiolchgar iddi am ei chynygiad caredig, ond nad oeddwn wedi meddwl am briodi; ac atebodd hithau fod yn hen bryd i mi feddwl, ac felly y terfynodd y siarad. Y tro nesaf yr euthum yno daeth a'r peth yn mlaen drachefn, a chyfrifodd i mi ei heiddo, a dwedodd y gwnai y cwbl i mi os priodwn hi; ond troais y stori at rywbeth arall gan geisio chwerthin y peth i ffwrdd, er nad oedd chwerthin ar fy nghalon, ac euthum ymaith yn fuan. Daeth yr un pwnc yn mlaen pan euthum yno wed'yn, a dwedais wrthi os soniai am y peth drachefn y byddai raid i mi roi heibio ymweled â hi, ac atebodd hithau y daliai i son nes i mi wrando arni. Nid euthum yno mwy. Erbyn hyn yr oeddwn yn druenus, a gwyddwn fod yr helynt yn effeithio ar fy mhregethu — yr oeddwn yn anesmwyth drwof, ac ni fedrwn gael fy myfyrdodau at eu gilydd i barotoi ar gyfer y Sabboth — yr oedd Miss Perks yn ei sêt yn y capel o flaen fy meddwl yn barhaus. Ni wyddwn beth i'w wneud. Dymunwn yn fy nghalon gael galwad i ryw eglwys arall, yr hyn a gawswd fwy nag unwaith pan nad oeddwn yn barod i'w derbyn. Un noswaith synais weled y chwe' diacon yn y cyfarfod eglwysig — yr oedd hyny yn beth amaethyn, oblegid yr oeddynt yn ddynion prysur, llawn eu trafferth gyda'r byd. Ar ol y cyfarfod, yn y vestry-room, canfyddais ar eu hwynebau fod rhywbeth yn bod, ac heb i mi fanylu: ti, dwedasant fod ganddynt gwyn ddifrifol yn fy erbyn—fod Miss Perks wedi eu hysbysu fy mod ar fwy nag un achlysur wedi ymddwyn yn anweddus ati, a chwbl anheilwng o weinidog yr Efengyl, ac wrth gwrs nad allent amheu gair Miss Perks. Yr oeddwn wedi fy syfrdanu, a daeth rhywbeth i fy ngwddf fel nad allwn ddweyd gair am amser, a chrynwn fel deilen. Yr oeddwn yn ddig enbyd wrthyf fy hun, oblegid gwyddwn eu bod yn edrych ar yr arwyddion hyn fel prawf o fy euogrwydd. Pan ddeuthum ataf fy hun adroddais yr hyn yr wyf wedi ei adrodd i ti yn barod. Ond gwyddwn nad oeddynt yn fy nghredu, a dwedasant fod yr hyn a adroddwn yn anhebyg i Miss Perks — eu bod yn ei hadwaen er ys deng mlynedd ar hugain. Dwedodd y diacon hynaf — y callaf a'r goreu o honynt — eu bod wedi bod yn cydymgynghori, ac mai'r peth goreu i mi, i'r achos mawr, ac i'r eglwys, oedd i mi reseinio ar un waith; a'u bod wedi d'od i'r penderfyniad hwn gyda gofid mawr, ond fod yn rhaid iddynt ystyried teimladau Miss Perks. Wedi llawer o siarad, ac i mi wneud llwon mawr, ysgydwais ddwylaw â phob un o honynt, ac nid oedd wyneb un o honom yn sych. Prysurais i fy llety fel dyn gwallgof, a deuthum yma yn fy mlaen dranoeth. Gelli ddyfalu cyflwr fy meddwl byth er hyny. Ond yr wyf yn gweddïo ddydd a nos ar Dduw glirio fy ngharitor, a mi gredaf y gwnaiff ryw dro, hwyrach pan fyddaf fi wedi myn'd o'r golwg. Nid oes neb yma yn gwybod yr hanes ond Mr. Price, gweinidog yr Annibynwyr, ac y mae ef wedi bod yn crefu arnaf lawer gwaith am gael chwilio i'r achos, ond yr wyf wedi ei atal. Cadw y cwbl i ti dy hun ar hyn o bryd."

Bu James Lewis a minau yn fwy o gyfeillion nag erioed ar ol hyn. Yn mhen tair blynedd gelwais un diwrnod yn ei siop, a dwedodd ei was fod Mr. Lewis wedi mynd oddi cartref am rai dyddiau. Cyn diwedd yr wythnos hono cefais air ganddo i ddod yno. Yr oedd yn llawen, ond yn hynod gynhyrfus. Estynnodd ysgrif i mi yn adrodd cyfaddefiad gwely angau Miss Perks mai anwiredd noeth a ddwedasai am ei "gweinidog anwyl." Pan aeth y genawes i farw teimlodd wrês y tân tragwyddol yn rhy boeth, a chrefodd ar y diaconiaid i anfon am James Lewis Gwnaeth y cyfaddefiad o flaen James a phedwar o'r diaconiaid; ac â'i hanadl olaf megys, ceisiodd ganddo gymeryd iawn mewn arian am y camwri, ond gwrthododd James hyny gyda dirmyg. Ond dwedodd James wrthyf ei fod wedi maddeu iddi, a gweddïo wrth erchwyn ei gwely am faddeuant Duw iddi. Bu farw Miss Perks dranoeth, a daeth James yn ei ol gyda charitor a chydwybod lân. Ond effeithiodd yr helynt mor dost arno fel y bu yntau farw toc. A dyna stori James Lewis i ti, un o'r bechgyn mwyaf talentog a welais erioed, ac mae'r stori cyn wired a'r pader, ebai F'ewyrth Edward.