Syr Hywel y Fwyall

Oddi ar Wicidestun

gan Iolo Goch

A welai neb a welaf
ys y nos, a iawn a wnaf,
pan fwyf, mwyaf poen a fu,
yn hunaw anian henu?
Cyntaf y gwelaf mewn gwir
caer fawrdeg acw ar fordir
a chastell gwych gorchestawl
a gwŷr ar fyrddau a gwawl
a glasfor wrth fur glwysfaen
a geirw am groth tŵr gwrm graen;
a cherrd chwibenygl a chod,
gwawr hoenus, a gŵr hynod;
rhianedd, nid rhai anoyw,
yn gwau y sidan glân gloyw;
gwŷr beilch yn chwarae, gaer barth,
tawlbwrdd a secr uwch talbarth;
a gŵr gwynllwyd, Twrch Trwyd trin,
nawswyllt yn rhoi’i farneiswin
mewn gorflwch aur goreuryn
o’i law yn fy llaw fellŷn;
ac ystondardd hardd hirddu
yn nhâl tŵr, da filwr fu,
a thri blodeuyn gwyn gwiw
o’r unllun, dail arianlliw.
Eres nad oes henuriad
ar lawr Gwynedd wleddfawr wlad
o gwbl a allo gwybod
petwn lle mynnwm ‘y mod.
‘Oes,’ heb yr un, ‘syberw wyd,
breuddwydiaw obry’ dd ydwyd.
Y wal deg a weli di,
da dyddyn y doud iddi,
a’r gaer eglur ar greiglofft
a’r agrreg rudd ar gwr grofft,
hon yw Cruciath a’i gwaith gwiw -
hen adail honno ydiw.
A’r gŵr llwyd cadr paladrddelt
yw Syr Hywel, mangddel mellt,
a’i wraig, Syr, wregys curaid,
Hywel, iôn rhyfel yn rhaid;
a’i llawforynion to teg -
ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg
yn gwau sidan glân gloywliw
wrth haul beldyr drwy’r gwydr gwiw.
Tau olwg, ti a welud
ystondardd, ys hardd o sud;
pensel Syr Hywel yw hwn;
myn Beuno, mae’n ei bennwn
tri fflŵr-de-lis, orris erw,
yn y sabl, nid ansyberw.’
Anian mab Gruffudd, rudd rôn,
ymlaen at ei elynion,
yn minio gwayw mewn eu gwaed,
anniweirdrefn, iôn eurdraed;
Ysgythredd baedd ysgethrin
asgwrn hen yn angen in.
Pan rodded, trawsged rhwysgainc,
y ffrwyn ym mhen brenin Ffrainc,
barbwr fu fal mab Erbin
â gwayw a chledd, trymwedd trin;
eilliaw â i law a’i allu
bennau a barfau y bu;
a gollwng gynta gallai
y gwaed tros draed - trist i rai.
Annwyl fydd gan ŵyl Einiort,
Aml ei feirdd, a mawl i’w fort.
Gwarden yw, garw deunawosgl,
a maer ar y drawsgaer drosgl;
cadr gwrser yn cadw garsiwn,
cadw’r tir yn hir a wna hwn.
Cadw’r bobl mewn cadair bybyr,
cadw’r castell, gwell yw na gwŷr,
cadw’r dwy lins, ceidwad Loensiamp;
cadw’r ddwywlad, cadw’r gad, cadw’r gamp;
cadw’r mordarw cyda’r mordir,
cadw’r mordrai, cadw’r tai, cadw’r tir;
cadw’r gwledydd oll, cadw’r gloywdwr,
a cadw’r gaer: iechyd i’r gŵr!