Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Enaid Cenedl

Oddi ar Wicidestun
Owain Glyn Dŵr Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

gan Owen Morgan Edwards


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
hysbysebion

Enaid Cenedl

LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrôdd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ôl.

Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweud fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfedd y criafol eleni (1918). "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn. Y mae chwildroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas siglo, gwane rheolwyr am wledydd newydd a llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a chydraddoldeb a chyfoeth. Pwy fuasai'n meddwl ugain mlynedd yn ôl, y buasai cyfoethogion Cymru yn rhoi symiau o arian at addysg y werin, wrth y deng mil, yr ugain mil, a'r can mil o bunnau? Pob llwyddiant i'r genedl ymgyfoethogi mewn golud byd a meddwl, ac arweinied Duw ei hymdrechion arwrol a hunan-aberthol i fuddugoliaeth. Ie, enilled yr holl fyd.

Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o'r llwch ac ymgryfhau, gall goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesgáu a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy. A phe digwyddai'r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a'r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai'r faner; byddai ei llais hi yn fud.

Y mae i Gymru ei hiaith ei hun, ac ni fedr gadw ei henaid hebddi. Nid hyn a hyn o eiriau, mwy neu lai nag mewn ieithoedd eraill, ydyw. Y mae ynddi brydyddiaeth bywyd a gobaith mil o flynyddoedd wedi ei drysori. Pan ddaw'r geiriadurwr anwyd i sefyll uwch ei phen, bydd, nid yn ieithegwr yn unig, ond yn hanesydd a bardd hefyd. Y mae yn enaid hanner effro Cymru ddefnydd llenyddiaeth odidog; nid yw Ceiriog a Daniel Owen ond megis wedi codi cwr y llen, ac ni rydd Islwyn ond rhyw gipolwg niwlog ar y bywyd heulog llawn sy'n disgwyl ffurf a llais. Ar lenyddiaeth ddieithr,-a honno'n iaith ddieithr a masw a gwan, y gwrendy toreth ein pobl ieuanc y dydd hwn. Os nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog, fel na chollant y chwaeth a'r dyhead a gadwodd y Mabinogion trwy genedlaethau di-ddysg a di-lyfr. Fy nghenedi, beth yw sefyllfa'r Gymraeg yn dy ysgolion?

Y mae i enaid Cymru ysbryd cerddoriaeth gyfrin, sydd eto heb gael llais, er y clywir sibrwd ei edyn mewn ambell hen alaw neu yn hwyl ambell gymanfa. Cofiaf am adeg na ddysgid alaw Gymreig yn yr un ysgol yng Nghymru. Pryd hynny, gwynfyd y cerddor fuasai newid enaid Cymro am enaid Sais, a iaith y Cymro am iaith yr Eidalwr, ac yntau heb adnabod y naill na medru'r llall. Sais ddaeth ag alawon Cymreig i ysgolion Gogledd Cymru; Saeson sy'n galw heddiw am i'n cerddorion dynnu eu hysbrydol iaeth o'r bywyd cyfoethog Cymreig, yn 1 edmygu'r dieithr na fedrant ond ei ddynwared Ni anwyd cenedl ag enaid mor llawn o gerddo. iaeth ag enaid cenedl y Cymry. Ewch i ysgolior. y genedl, i wrando lleisiau'r plant ar fore. Pa mor aml y clywch emyn neu alaw Gymreig yno?

Y mae enaid Cymru'n ddwys grefyddol, a'i lygaid ar y tragwyddol. Oherwydd hynny, oni ddylai y weledigaeth fod yn glir? Oni ddylai'r gwyddonwr Cymreig fod yn ddarganfyddwr? Ond wedi colli ei enaid, cyll meddwl y Cymro ei nerth. Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o'r golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw'r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,—yno y caiff ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nod ddim yn is. (—Er Mwyn Cymru.)

Nodiadau[golygu]