Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Genoa
← Taith ar Draed yn Llydaw | Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau gan Owen Morgan Edwards golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian) |
Hen Gapel Llwyd → |
Genoa
I MI, diwrnod o sylweddoli tlysni Itali oedd y diwrnod a dreuliais i gerdded yn ôl ac ymlaen hyd Fur yr Ogof. Wedi hir alaru ar eangderau gwynion o eira, mwyn oedd gweled lliwiau tyner Môr y Canoldir,-y creigiau llwydion, yr olewydd gwyrdd, yr eurafalau, a glas y môr, gyda'i ymyl o ewyn gwyn.
Eistedd y ddinas ar odrau'r mynydd, ar fin ei phorthladd digymar, fel gwraig deg, meddai ei beirdd, yn edrych ar ei llun ym mhrydferthweh. tawel ei hafan dymunol. Ymdroella ei mur am naw milltir hyd ochr y bryn o'i hamgylch, of amgylch ei phinaclau a'i heglwysi a'i phalasau, fel llinyn am bwysi o flodau. Y tu ôl, ymgyfyd. copâu afrifed yr Apeninau, pob bryn mewn mantell laes o eira, ac amddiffynfa fel coron ddu ar bob pen. Ond, fel geneth gariadlawn, troi a wna Genoa oddi wrth harddwch urddasol y mynyddoedd, ac ymhyfrydu yn nhlysni'r môr.
Tlws ydyw'r bore, pan fo'r haul yn goreuro'r
ewyn ac yn ariannu dail yr olewydd, pan fo'r
awelon yn chwyddo hwyliau llongau dirif sy'n
cyrchu o'r dé i osod eu marsiandiaeth i lawr wrth
draed y ddinas dlos. Hwyliau duon, melynion,
gwynion, yn nhlysni blodau, gydag esmwyth
symudiad eleirch, ymdonnant tua thraeth bren-
hines y gorllewin for. A thlws odiaeth ydyw'r
hwyr, pan fo machlud haul yn gwisgo mynyddoedd afrifed y traeth mewn lliwiau dirifedi,
lliwiau tyner, gwawr a gwrid a goleuni.
Rhwng y mynyddoedd acw, sy'n ymestyn hyd ymyl y môr tua'r gorllewin, y mae aml i hafan swynol, lle'r ymsaetha'r balmwydden i fyny dan goron o flodau o'r gwynnaf, fel pe bai newydd godi trwy'r ewyn sy'n trochioni oddi tani, lle mae'r lemonau mor euraid oherwydd fod y môr mor las oddi tanodd, a'r olewydd mor wyrddion fry. Ac mewn aml i gilfach, lle mae haul y bore yn gystal â haul yr hwyr yn gwneud cysgodion, mae adfeilion distaw rhyw bentref fu gynt yn llawn o forwyr; neu eglwys wedi ei gadael ar hanner ei hadeiladu, oherwydd i'r adeiladwyr fynd ar hynt o'r hon ni ddychwelasant, gan gredu y buasai Mair yn gofalu am eu dwyn yn ôl i orffen ei heglwys, ond ofer fu eu ffydd, a goddiweddwyd hwy gan donnau'r môr; neu gastell wedi ei dorri oesoedd yn ôl gan fôr-ladron, y pelican a'r ddylluan a letyant ar gap y drws, eu llais a gân yn y ffenestri, anghyfanedd-dra sydd ar y gorsingau.
Ond, pa nefoedd fechan bynnag, pa hagr adfail bynnag, sydd rhwng y bryniau a ymestynant yn llinell hir ar hyd y traeth y mae'r haul yn eu gwisgo i gyd yn yr un gogoniant, fel y mae gobaith yn goreuro llwybr y dyfodol, llwybr ar hyd traeth tragwyddoldeb, trwy aml i lecyn swynol,— lle llenwir yr enaid â sŵn y môr tragwyddol, ac â breuddwydion am ddringo bryniau uchaf uchel— gais byd,—a thrwy aml i gilfach dywyll,—lle'r eisteddir, nid i orffwys, ond i chwarae â cholyn ingol amheuon ac anobaith, i wylo uwch dinistr yr hyn fu ac ansicrwydd yr hyn a ddaw.(—Tro yn yr Eidal.)