Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Plu'r Gweunydd

Oddi ar Wicidestun
Aberystwyth Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau

gan Owen Morgan Edwards


golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian)
Taith ar Draed yn Llydaw

PLU'R GWEUNYDD

Ychydig sy'n cofio haf mor ogoneddus a'r haf sy'n awr yn cilio i fysg hen hafau ein bywyd. Haf goludog heulog ar y mynyddoedd,—beth sy'n well darlun o'r nefoedd na hynny?

Yn ystod ei ddyddiau euraidd hyfryd, gwnaeth haf eleni un gymwynas neilltuol â mi. Gwnaeth Gymru oll yn brydferth i'm golwg. Cyn hynny, yr oedd un llecyn nad oeddwn wedi gweled ei brydferthwch. Yr oedd yn rhaid i mi fyned heibio iddo droeon bob blwyddyn, bodd neu anfodd. Deuai iasau oerion drwof wrth feddwl am dano. Eto nid oeddwn wedi cwyno wrth neb fod un llecyn, yng nghanol Cymru, mor hagr i'm llygaid fel yr ofnwn edrych ymlaen at yr adeg y byddai raid i mi fynd heibio. Yr oedd cyfeillion i mi'n mynd heibio'n amlach na mi; ond ni chlywais hwy'n cwyno erioed. Y mae un o hen ysgolion enwocaf Cymru'n edrych i lawr ar y llecyn gashawn, ond ni lethwyd athrylith ei hysgolheigion gan ddwyster trymaidd yr olygfa. Bu rhai o feirdd mwyaf melodaidd Cymru yn byw ar ei ymylon, ond ni ddistawyd eu hawen hwy ac ni oerwyd eu gwladgarwch gan drem oerllyd y lle. A dyma finnau'n teimlo'm gwaed yn fferru, a'm meddwl yn crebachu, a phob teimlad gwladgarol yn oeri, wrth fynd heibio. Cors goch glan Teifi oedd y fan.

O orsaf Ystrad Fflur i orsaf Tregaron rhed y ffordd haearn dros gyrrau neu hyd finion cors am dros bum milltir o ffordd. Ar y chwith, wrth deithio tua'r de. ceir y mynyddoedd eang.—Berwyn canolbarth Cymru,—sy'n gwahanu dyffryn Teifi oddiwrth gymoedd uchaf Claerwen a Thowi, a'u hafnau mynyddig mwynion. Ar y dde gwelir llethrau'r Mynydd Bach, a'i ffermdai clyd ar y godrau a'r llechweddau, a'i hanes yn ddiddorol o'r amser y cerddai llengoedd Rhufain ei Sarn Helen hyd ddyddiau yr athrawon a'r beirdd a'r efengylwyr roddodd fri ar ei bentrefydd,—Lledrod, Bronnant, Blaen Pennal, Penuwch, a Llangeitho.

Ond rhwng y mynyddoedd hyn gorwedd y gors farw, oer. Ar ei gwastadedd hi ni thyf blodau gweirglodd a gwndwn Cymru. Yn ei mynwes leidiog ddu cyll aberoedd Cymru, eu dwndwr mwyn a'u purdeb grisialaidd; yn lle ymuno âg afon fordwyol neu gyrraedd môr heulog, collir golwg arnynt yn y gors hagr,—Marchnant a Glasffrwd a Fflur a Chamddwr a'u chwiorydd llawen. Nid oes ffordd yn ei thramwy; craffwch o'r tren, ac ni welwch lwybr ar ei thraws o Ystrad Meurig i Dregaron. Nid yw'n llyn ac nid yw'n ddôl; ond y mae'n llenwi lle fuasai'n llyn tlws neu'n ddôl brydferth, ac y mae wedi cyfuno ynddi ei hun bopeth sy'n anhardd mewn dŵr a thir, a dim sydd hardd. Y mae hen ffyrdd dynion fel pe'n gochel, ac y mae'r ffordd haearn yn myned heibio iddi gan ei hosgoi.

I'm meddwl i, cyfunai bopeth wna aeaf a mynydd-dir yn anghysurus,—tir gwlyb didramwy, pyllau oerion lleidiog, ambell goeden ddi-ffurf yn dihoeni, diffyg blodau a diffyg bywyd. Ai cryndod drwy'm enawd wrth ei gweled, fel pe bawn yn edrych ar Lyn Cysgod Angeu. Ond ni fedrwn beidio edrych arni wrth fynd heibio. Er fy ngwaethaf ni allwn dynnu fy llygaid oddi arni, yr oeddwn fel pe tan ei swyn oer. Wedi cyrraedd Tregaron, teimlwn fel pe bawn wedi cael fy nhraed ar dir sych, yn oer a gwlyb, wedi bod yn ymrwyfo am oriau drwy laid. Ac ym mreu- ddwydion y nos cawn fy hun yn graddol suddo i'w mwd lleidiog du.

Ceisiais lawer gwaith ymryddhau oddi wrth yr atgasedd ati. Sefydlwn fy ngolwg ar ei theisi mawn. Ceisiwn ddychmygu am aelwydydd y ffermdai oddi amgylch yn y gaeaf, a'u tân mawn glân, siriol, a'u dedwyddwch yn dod o garedigrwydd y gors. Ond ofer oedd fy ymdrech. Llithrai fy meddwl yn ôl er fy ngwaethaf at laid sugndyn- nol ac ymlusgiaid ffiaidd ac anobaith bywyd.

Pan ddangosodd haf eleni ogoniant newydd i mi mewn golygfeydd ystyriwn yn berffaith o'r blaen, a phan ddangosodd berffeithrwydd lle y tybiwn i fod amherffeithderau gynt, trodd fy meddwl at Gors goch glan Teifi. Tybed ai yr un oedd hi o hyd wedi wythnosau o sychter haf? A orweddai'n drom, wleb, farw, gan wrthod adlewyrchu dim o olud lliwiau a bywyd yr haul? Penderfynais fynd heibio iddi, rhag fod iddi hithau ei blodau. Unwaith newidiodd blodeuyn wedd gwlad i mi. Hwnnw oedd blodyn melyn dant y llew; gwnaeth amgylchoedd Glasgow, lle lleddir blodau eraill gan fwg y gweithfeydd, yn hyfryd â'i wên siriol.

Fel arfer, daethum hyd ddyffryn gwyrdd hyfryd Ystwyth. Yr oedd y gwres yn llethol, oherwydd mis Gorffennaf oedd hi. Yr oedd gwair ysgafn yn sychu'n grin bron newydd ddisgyn oddi wrth y bladur, yr oedd pawb yn dianc i'r cysgod rhag y gwres. Oddi ar ael y bryn, lle dringai'r trên dan goed hyfryd eu cysgod, gwelem danbeidrwydd yr haul ar y dolydd oddi tanom ac ar y bryniau a'r dyffrynnoedd draw. Toc daethom i ben y tir, lle y bu Ieuan Brydydd Hir yn hiraethu am dano,—

O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoyw—fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwěl,
Ac iachus yw, ac uchel;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raean ro,
A redant mewn ffloyw rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau.

Dacw ysgol Ystrad Meurig ar ael y bryn. Mor hoffus oedd bywyd yr Athro Edward Richard, ac mor felys yw ei fugeilgerddi ar y mesur tri tharawiad. Bob tro y dof i'r llecyn hyfryd hwn, daw ei linellau melodaidd i'm meddwl, a hefyd y cof iddo unwaith adael ei ysgol am flwyddyn oherwydd fod ei gydwybod yn dweud y dylai ddysgu ychwaneg. Ac yn awr wele'r gors o'n blaen, ac yr ydym ninnau ar ei minion.

A rhyfedd iawn, wele hi, nid yn ddu a thrist fel arfer, ond yn wen fel pe bai dan gaenen o eira. Nid eira mohono, gwyddwn hynny'n dda, ar haf fel hwn. Yr oedd y gwynder yn fwy cain na gwynder eira, yr oedd yn wyn cynnes disglair hefyd, gwyn fel gwyn edyn angylion oedd. Nid oedd y gors yn wen i gyd, ond yr oedd y llanerchau gwynion oedd hyd-ddi fel pe'n taenu eu purdeb gwyn a chynnes hyd y banciau a'r mawnogydd i gyd. Yr oedd y ffosydd wedi eu gweddnewid dan wên heulog yr haf, nid oedd eu duwch yn edrych yn hagr na 'u dŵr yn oer. Yr oedd golwg gartrefol groesawgar ar y teisi mawn, dygent i gof y mwg glas fydd yn esgyn o simneiau bythod Cymru ar nawn haf. Yr oedd y gors wedi ei gweddnewid.

Plu'r gweunydd, hen gyfeillion mebyd i mi, oedd wedi gwneud y gwaith. Yr oeddynt yno wrth eu miloedd, yn llanerchi o wynder ysgafn, tonnog, byw, heulog. Hwy roddodd i'r hen gors ddu hagr ei gogoniant gwyn. Yr oedd eu plu tuswog yn llawnion, ac eto'n ysgeifn. Gwyddwn mor esmwyth yw eu cyffyrddiad, un o bleserau mebyd oedd eu tynnu ar draws ein bochau. Ond ni welais hwy erioed yn edrych mor ieuanc, a'u gwyn mor gannaid, a'u hysgogiadau mor fywiog. Yr oedd yr awel ysgafnaf yn gwneud iddynt wyro, fel pe baent filoedd o angylion yn addoli. Yna'n sydyn taflent eu pennau'n ol, ac ysgydwent, fel pe baent dyrfaoedd rianedd mewn gwisgoedd gwynion yn dawnsio. A thoc ymdawelent, a gorffwysent yn eu gogoniant, dan adlewyrchu goleu'r haul, yn esmwythach ac yn burach goleu na phan y disgynnai arnynt. Tybiwn fod y bryniau a'r mynyddoedd o amgylch yn codi y tu ol i'w gilydd i edmygu plant angylaidd y gors, a bod llwybrau dynion yn cadw oddiwrthynt rhag torri ar heddwch mor dyner a difwyno tlysni mor bur. Yr oedd cyfuniad o wynder, disgleirdeb, a chynhesrwydd yn y fan olaf yng Nghymru y buaswn yn mynd i chwilio am dano.

Daeth llond fy nghalon o ddedwyddwch. Yr oeddwn mewn heddwch â'r lle na hoffwn gynt; yr oedd pob llecyn yng Nghymru yn awr yn brydferth i mi. A'r dydd hwnnw sylweddolais lawenydd y ddynol ryw pan welodd gyntaf dlysni hedd y mynydd, y rhostir, a'r môr. Yn llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag, diweddar yw'r gwelediad hwn. Nid oes yn Shakespeare a Milton gydymdeimlad a mawredd y mynydd, ag eangder y rhostir maith, â bywyd diflino'r môr; edrychid arnynt fel pethau aruthr ac ofnadwy. Ond danghosodd Gray fawredd y mynyddoedd, a Cowper brydferthwch pruddglwyfus y tiroedd gwastad, a Collins swyn yr anialwch, a Byron ardderchowgrwydd y môr. phan ddanghosodd Wordsworth i'w genedl holl dlysni natur wyllt, daeth dyn i heddwch â'r hyn a ofnai gynt; a daeth i'w galon lawenydd fel y llawenydd hwnnw deimlais i pan ddanghosodd plu'r gweunydd imi brydferthwch y gors.

Cododd awydd arnaf am aros yn nyffrynnoedd Ceredigion, i lenwi f'enaid â thlysni. Crwydrais i lawr dyffryn Teifi, i weled ei bethau prydferthaf. Yr oedd y dŵr ddaethai heibio i blu'r gweunydd o'r gors yn glir fel y grisial, ac yr oedd dwndwr Teifi mor felys a chywyddau Dafydd ab Gwilym,—

"Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loywaf afon
Fal Dafydd y sydd yn son."

Nid oes gennyf eiriau i ddarlunio golud tlysni dyffryn Teifi. Ond er teced yw bronnydd Llandyssul, er maint swyn Castell Newydd Emlyn, er fod y wlad ar ei thlysaf yng Nghenarth a'r môr ar ei hawddgaraf yn Aberteifi, ehed fy meddwl yn ol at blu'r gweunydd yn y gors a ofnwn gynt. Hwy yw plant pur y mynyddoedd, lle mae'r awel iach yn deffro'r meddwl, ac yn rhoi hoen yn lle suo i gwsg.

Yr wyf yn cofio imi, pan yn fachgen, orfod mynd heibio mynwent yn y wlad tua hanner nos ar ddiwedd taith hir. Yr oedd bachgen hŷn na mi gyda mi, a gofynnais iddo a oedd arno ofn. "Nac oes," oedd yr ateb syml, "y mae mam yn gorwedd yna." Pan af finnau heibio i Gors goch glan Teifi eto, ni theimlaf fy ngwaed yn oeri. Gwn fod yno'n huno filoedd ar filoedd o blu'r gweunydd, ac y deffroant pan ddaw pob haf, ac y bydd y gors yn llety mwyn a chynnes i angylion.(—Yn y Wlad)

Nodiadau[golygu]