Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau/Rhagair
← Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau | Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau gan Owen Morgan Edwards golygwyd gan John Tudor Jones (John Eilian) |
Cerdd coffa → |
RHAGAIR.
DEWIN oedd Syr Owen Edwards i gannoedd o blant Cymru—ei phlant o bob oed. Efe, i ddwy genhedlaeth neu dair, ydoedd creawdr Cymru.
Yr oedd yn ei law hudlath. Taenodd we ei gyfaredd dros Gymru i gyd, ac yr oedd hi'n disgleirio'n amryliw fel y disgleiria gemau'r gwlith ar wawn y meysydd dan haul y bore.
Angen esiamplau sydd ar Gymru," meddai Syr Owen yn rhywle. Diolch am y fath esiampl o wlatgarwr ag oedd Syr Owen ei hun. "Nid peth i golli gwaed er ei fwyn, nid testun araith ac arwrgerdd oedd gwlatgarwch iddo ef, meddai'r Athro W. J. Gruffydd ym mhennod gyntaf ei gofiant iddo (gweler Y Llenor, Cyf. VIII, Rhif 1). Gweledigaeth gyfrin ydoedd; rhywbeth yn perthyn yn agosach i fyd myfyrdod ac addoliad nag i fyd dadlau ac ymresymu."
Fe wnaeth ei ddiwylliant ef yn fab i'r eang fyd; fe wnaeth ei brofiad o'r byd ef yn fwy fyth o fab i Gymru. Ail—ddarganfu Gymru fel gŵr yn darganfod, yn ddisymwth, drysor cudd, a rhoes ei fywyd i wneuthur ei gyd—wladwyr yn etifeddion y trysor hwnnw. Gweithiodd i wneud y genedl yn un.
Yr oedd ei eiriau'n ysbrydoli. Yr oedd ei Gymraeg mor naturiol a swynol â thincial afonig dros ei cherrig gwynion mân. Ni bu ei hafal fel ysgrifennwr rhyddiaith ers Elis Wynne.
Ar ddydd Nadolig, 1858, y ganwyd ef, yng Nghoed y Pry, Llanuwchllyn, Meirionydd, "hen dŷ tô gwellt a'i dalcen mewn llechwedd." Bu'n dysgu yn ysgol bob dydd Llanuwchllyn, yn ysgol. ramadeg y Bala (lle y cyfarfu â "Tom" Ellis), yn athrofa'r Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala (bu bron iddo fynd i'r weinidogaeth); yng Ngholeg Aberystwyth, ym mhrifysgol Glasgow, ac ym. mhrifysgol Rhydychen (Coleg Balliol). Fe'i gwnaethpwyd yn Gymrawd ac athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ac yr oedd yn un o ysgolheigion a darlithwyr gorau ei ddydd yno. Yno yr ysgrifennodd amryw o'i lyfrau ac y cychwynnodd y cylchgronau Cymru, Cymru'r Plant, Y Llenor, a Heddyw. Gwnaeth waith enfawr dros Gymru drwy'r wasg mewn 30 mlynedd. Fe'i penodwyd yn Brif Arolygydd Ysgolion yng Nghymru, ac yn y byd hwnnw, fel y dywed Mr. R. T. Jenkins (yn. Y Llenor, Cyf. IX, Rhif 1) fe barodd bod rhyw " ysbryd yn ymsymud, rhyw nodd yn cerdded yn y canghennau diffrwyth." Bu farw yn 1920, a'i gladdu yn Llanuwchllyn.