Syr Watcin Williams Wynn
Gwedd
- Ym mhlith yr holl foneddwyr
- A geir yng Nghymru lân,
- Mae rhai boneddwyr mawrion,
- A’r lleill yn od o fân;
- Ond gwnewch un bwndel anferth
- O fonedd Cymru ’nghyd,
- Syr Watcyn, brenin Cymru,
- Sy’n fwy na’r lot i gyd.
- Lle bynnag tyfa glaswellt,
- Lle bynnag t’wynna haul,
- Fel tirfeddiannwr hynaws
- Ni welwyd un o’i ail;
- Mae’n frenin gwlad y bryniau,
- A chyda hyn o ran,
- Mae’n frenin yng nghalonnau
- Ei ddeiliaid ym mhob man.
- Ewch at y weddw unig,
- Ewch at amddifad tlawd,
- Syr Watcyn yw eu noddwr,
- Syr Watcyn yw eu brawd;
- Trwy ddagrau diolchgarwch
- Ar ruddiau llawer un
- Argraffwyd yr ymadrodd,—
- “Syr Watcyn ydyw’r dyn.”
- Mae ef yn wir foneddwr,
- ’Does neb all ameu hyn,
- Mae’i glôd fel llanw’n llifo
- Dros lawer bro a bryn;
- Ac nid yn unig hynny,—
- Mae’n Gymro pur o waed,
- A Chymro glân bob modfedd
- O’i goryn hyd ei draed.
- Hir oes i’r mwyn bendefig,
- Medd calon myrdd pryd hyn,
- A byw ddwy oes a hanner
- A wnelo Lady Wynn;
- Hir oes i’r holl hiliogaeth,
- A chyfoeth heb ddim trai,
- A bendith nef fo’n aros
- Ar deulu hen Wynnstay.