Tanchwa ddychrynllyd yn Nyffryn Rhondda, ger Pontypridd
← | Tanchwa ddychrynllyd yn Nyffryn Rhondda, ger Pontypridd gan Anhysbys |
→ |
TANCHWA DDYCHRYNLLYD
YN
NYFFRYN RHONDDA,
GER PONTYPRIDD.[1]
Cymerodd yr amgylchiad galarus uchod le tua dau o'r gloch, prydnhawn dydd Gwener. Tachwedd 8, 1867. mae yr achos hyd yn hyn yn anadnabyddus. Yr oedd oddeutu 30, rhwng dynion a bechgyn, yn y gwaith uchod. Bore dydd Gwener, aeth oddeutu 260 i lawr i'r pwll. Yn rhyw fodd cymerodd yr awyr dân; gwnawd pob ymdrech dichonadwy i achub bywydau y gweithwyr, ac i gael allan gyrph y rhai oedd wedi trengu. Nos Wener codwyd yn nghylch 50 o gyrph. Hyd yn hyn ni wyddys pa nifer o fywydau sydd wedi eu colli. Darparwyd 150 o goffinau erbyn dydd Sadwrn, ond ofnir fad oddeutu 170 o fywydau wedi eu colli. Dywed personau cymwys i farnu, na chymerir mwy o ofal yn unrhyw waith glô, or diogelu bywydau y gweithwyr nac a gymerir yn y gwaith uchod.
Frightful Colliery Explosion in the Rhondda Valley.
The above Colliery belongs to the well-known and much respected firm of Messrs. David Davies & Sons, Cardiff, and generally employed 300 men and boys. On Friday, November 8th, 1867, about 260 persons went down the pit; and, alas! about 2 o'clock in the afternoon, the bad air ignited, through some cause hitherto unknown, and it is supposed that about 170 persons lost their lives. Among them there were fathers with three or four sons!! What must be the feelings of the bereaved widow and tender mother! About 150 coffins were sent up from Cardiff on Saturday—but it was supposed they were not nearly enough. The colliers from all the Works around, gave up working, and came with all possible haste to the spot, to render all the aid they could to secure life, if possible, and find the bodies of their unfortunate fellow-workmen. During Friday night about 50 bodies were brought up.
The damage, through mercy, was confined to the western workings otherwise it would have been still more fearful. The men in the other parts were spared, and safely reached the surface. It is impossible to describe the feelings of women and children at the mouth of the pit, as one after another were brought up.
Enwau rhai o'r personau a gollwyd.
J. Williams, gof., 50
Thomas Lewis, 19
John Harris, 26
Benjamin Morris, 49
a phedwar mab—
Benjamin, 29
Ebenezer, 27
John, 23
Daniel, 21
Thomas Thomas, 48,
a phedwar mab
Thomas, 24
Richard, 22
John, 16
Lewis, 13
William Wills. 18
Thos Lewis, 19
John Harris, 26
John Owens, 25
Thos, Williams, 35
John Jenkins, 48
Philip Saunders, 20
William Waters, 13
Evan James, 14
Thos. Vaughan, 23
John Jenkins, 55
John Lewis, 28
Henry Hughes, 30
Morgan Jones, 36
Evan Meredith, 28
Morgan Griffiths, 44,
a'i fab Morgan, 15
David Lewis, 34.
John Williams, 25
Miles Hughes, 13
Robert W. Roberts, 13
W. Williams, 20,
a'i fab, 13
John Davies, 38, a'i
fab James, 13
W. Griffiths, 28
Edward Williams, It
Edyard Moseley, 27
John Richards, 15
David Thomas, 22
David Evans, 17
David Thomas, 17
Richard Barker, 24
David Burke, 22
David Jones, 14
W. Heeman, 26
W. Williams, 33
Thomas Thomas, 29
W, Williams, 17
Dygwydda troion chwerwon
O'n cylch, mewn llawer lle,
Sy 'n rhwygo llawer mynwes
Yn drwm, mewn gwlad a thre';
Tro trwm fu 'n Nyffryn Rhondda-
Fe gofir hwn yn hir
Gan wragedd gweddwon llymion
Mewn llawer parth o'r tir.
Madawodd tadau tyner
Au tai 'n gysurus iawn,
Gan feddwl yn y bore
Dd'od gartre' y prydnhawn;
Eu mheibion yn eu hymyl,
Yn fywiog ac yn llón,
Heb ofid yn terfysgu,
Nac yn pruddhau eu bron.
Ansicr iawn yw iechyd
A bywyd dynol ryw;
Gyd-ddyn, o bob rhyw oedran,
'N ddifrifol gwrando, clyw!
Trwm na b'ai 'r holl rybuddion
A gawn o hyd—o hyd,
Yn enill mwy o sylw
At bethau'r bythol fyd.
Trwm iawn oedd gwel'd tad yno,
Yn gelain yn y lle,
A meibion, dri neu bedwar,
Yn gorwedd gydag e';
O fam! trwm, prudd yw' th galon
Wrth wel'd dy briod cu,
A'th feibion felly 'n galw
Am le'n y ddaear ddu!!
Boed Ffynon pob daioni,
Yn nawdd i'r gweddwon prudd
Yn gysgod i'r ymddifaid
Y byddo nos a dydd;
Yn wyliadwrus byddo
Y gweithwyr trwy eu hoes,
Am fywyd pwyso byddont
Ar haeddiant angeu'r groes.
Trowch wragedd gweddwon, druain,
Eich golwg at yr Un
Sy'n gymorth mewn cyfyngder,
Yn Gyfaill byth â dyn;
Eich gofal rhoddwech iddo,
Gan blygu i ei air:
Y neb a'i caffo 'n eiddo
Yn ddiogel byth fe'u cair.
E. Griffiths, Argraffydd, Abertawy.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Glofa Glynrhedynog (Ferndale)
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.