Tanchwa ofnadwy yn Abersychan
← | Tanchwa ofnadwy yn Abersychan gan Anhysbys |
Baled Cymraeg → |
Tanchwa Ofnadwy
YN ABERSYCHAN.
180 WEDI EU LLADD.
Oddeutu haner awr wedi wyth boreu dydd Iau, Chwefror 6ed, 1890, cymerodd ffrwydriad ofnadwy le ya Nglofa y Llanerch, Talywain, ger Abersychan. Nid oedd y glowyr, o gylch 230 mewn nifer, ond prin wedi dechreu ar eu gwaith pan gymerodd y trychineb ofnadwy le. Gan i'r tanwyr adrodd y cawsant y pwll yn rhydd o nwy, credir mai achos y dinystr oedd blower fawr yn dyfod i gyffyrddiad â goleu noeth—pa rai a ddefnyddid yn y pwll hwnw. Achoswyd gryn lawer o ddinystr ar ben y pwll. Gwnawd ymchwiliad yn fuan, ond cafodd y parti ymchwiliadol eu rhwystro yn fawr gan gwympiadau ac ol-nwy. Erbyn nos Wener, dygwyd 167 o gyrff i fyny, ac y mae amryw eto ar goll. Credir y cyrhaedda cyfanswm y rhai a gyfarfuasant â'u diwedd y nifer o 180. Perchenogion y pwll ydyw Mri. Partridge, Jones & Co., Limited, Casnewydd, ac y mae yn meddu ar bob dyfais a gwelliant newydd sydd bosibl.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.