Neidio i'r cynnwys

Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd

Oddi ar Wicidestun
Tanchwa y Mardy - Mercher, Rhagfyr 23, 1885; 80 wedi eu lladd

gan Anhysbys

TANCHWA Y MARDY


Mercher, Rhagfyr. 23, 1885.


80 wedi eu lladd


(All rights strictly reserved.)

Cymru anwyl, dyma eto
Hanes erch yr elfen dan,
Nid oes lawer iawn o amser
Er pan wnaeth hi rwyg o'r bla'n;
Yn y Mardy—tref anffodus!—
Mae wylofain mawr yn bod,
Teuluoedd llu yn drist eu cyflwr
Ac yn isel iawn eu nod.

Ar y drydydd dydd ar hugain
O fis Rhagfyr, cocliwch fi,
Clywyd swn fel erch ddaeargryn
Yn cynhyrfu'r creigiau cry';

Rhwygwyd ben y pwll yn ddarnau,
Chwalwyd y ffenestri'n fyrdd,
Mor ddynystriol oedd y nwyon
Ddaeth yr adeg hon'on rhydd.

Torf rhuthrasant o'u honedd-dai
A chyfeirient at y fan,
Lle ymdreiddiau'r swn ofnadwy
A'u calonau'n curo'n wan;
Pryder oedd yn gwelwu'n gruddiau
Llawn oedd eu meddyliau hwy
Pawb yn brysio am y cyntaf
I gael gwybod maint eu clwy!

Dacw'r cyrph yn dod i fyny,
O'r fath olwg arnynt sydd,
Pwy all beidio dal heb deimlo'r
Dagrau'n treiglo dros ei rudd;
Gwel'd y mam yn gwyllt gofleidio
Ei anwylfab yn olosg ddu;
Gwraig a'i dagrau'n golchi gruddiau
Duon llosg ei phriod cu.


A'r fath erch olygfa ydoedd,
Gwel'd y cyrph yn d'od i'r lan,
Ac o gylch y pwll oedd lluoedd,
'N gwneud y lle yn alar fan;
Corph y tad a'i wyneb gwelw,
Wedi i losgi bron yn llwyr,
Neb yn medru ei adnabod,
Ond ei fab ei hun a'i gwyr.

Pwy sydd heddyw yn feddianol
Ar wir ddawn i draethu am—
Y galaru a'r gruddfanau
Sydd yn mynwes llawer mam;
Tadau hefyd sydd yn wylo,
Am eu meibion hwy i'n clyw,
A'r rhai eraill yn och'neidio,
Am rhyw gar, ond nid yn fyw.

O!'r oedd llawer un o honynt
Wedi siarad lawer am
Ddydd Nadolig fel diwrnod
I ymwel'd a'u tad a'u mam;

Eraill a fwriadent fyned
I fwynhau eu dydd ynghyd,
Ond eu holl gynlluniau dd'ryswyd,
Y mae'nt hwy mewn arall fyd!

Duwch daenwyd dros Gwmrhondda,
A thros sir Forganwg lan,
Aeth y son drwy'r sir fel trydan
Am yr erchyll elfen dan;
Bu y gwyliau hyn yn wynan
Trist, i lawer mam a tad,
Am fod yn y teulu olion
Am y danchwa erch a'i brad.
Dyma rybydd i ni eto

I ni fod yn barod pan ddaw'r awr
I ni fyn'd heb byth ddychwelyd
O fro tragwyddoldeb mawr.
Ceisiwn nodd rhag dialydd,
Mynwn fan i bwyso'n pen,
Fel y gallwn ddweyd wrth farw,
Myn'd i'r Nef a wnawn.
Amen.

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.