Neidio i'r cynnwys

Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Teithiau a Helyntion


RHAGYMADRODD.

AT y Beirdd a'r Llenorion yn gyffredinol:— Bydded hysbys i chwi oll nad annturias gymeryd y gorchwyl mewn llaw o gyhoeddi hanes fy nheithiau gyda'r "Diliau," heb gael cesiadau ar a chymhelliadau i wneud hyny gan rai [???] cyfeillion caredig yn Nghymru a Lloegr; ac [???] yn llyfr bychan, yr un blygiad a'r "Diliau" fel y gallont eu rhwymo yn nghyd, os dewisant hyny. Felly gwneuthum eu dymuniad, ac wele ef yn awr [???] yn llyfr bychan am chwe cheiniog yr un i bawb a ewyllysio ei bwrcasu. Bum yn bur ochelgar rhag rhoddi cymaint ag un sill o'i fewn a roddai achos [???] i un gradd na sefyllfa o ddynion beth bynag. A hyderaf y caiff llawer bleser wrth ei ddarllen, gan fod ynddo gymaint o amrywiaeth, rhwng rhyddiaeth, prydd[???] a barddoniaeth; ac mae yn dra thebyg mai dyma y llyfryn olaf i mi roddi yn y wasg byth mwyach.

Eich gostyngedig ewyllysiwr da,
MEURIG EBRILL

Dolgellau, Tachwedd 12ed, 1855.

Nodiadau

[golygu]