Telun Fud
Gwedd
TELYN FUD
- WELAIS un ymhlith y defaid
- Derfyn hafaidd ddydd;
- Gwelais degwch rhos bendigaid
- Ar ei ieuanc rudd;
- Canai'r chwa wrth fynd a dyfod
- Rhwng y grug a'r dail;
- Canai yntau'n ddiarwybod
- Gydai lais di-ail.
- Gwelais ef yng ngŵyl ei henfro
- Gynt yn canu cân,
- Gwelais wedyn ei arwisgo
- Â llawryfau glân;
- Clywais sŵn ei lais yn torri,
- Fin alloraur Iôr,
- Megis sŵn ewynnau lili
- O tan wynt y môr.
- Wedyn gwelais ef yn edwi
- Tan y barrug gwyn,
- Ambell islais pêr yn torri
- Tros ei wefus syn;
- Yna gwelais ddyfod trosto
- Olau'r machlud drud;
- Hithau'r gân am byth yn peidio
- Ar ei wefus fud.
- Sefais wrth ei fedd un hwyrddydd,
- Bedd y gobaith glân
- Wybu londer plant y mynydd,
- Wybu ganu cân;
- A phe medrwn torrwn innau
- Ar ei feddfaen fud
- Ddarlun telyn gydai thannau
- Wedi torri i gyd.
Bywgraffiad
[golygu]Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o Drawsfynydd Sir Feirionydd ac yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, ond yr oedd wedi ei ladd chwe wythnos yng nghynt mewn brwydr yn Ypres a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu.