Neidio i'r cynnwys

Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig/RHOWCH osteg yn ystyriol

Oddi ar Wicidestun
CYDGANWN i'r Gogoned Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon



CAROL 19.

Mesur—GWEL YR ADEILAD.

RHOWCH osteg yn ystyriol, drwy gariad yma i Garol,
Iawn fuddiol foddion;
Er gwaeled ei gynghanedd, mae ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd,
Wirionedd union:
'Roedd Duw, cyn bod creadur byw,
Yn Ysbryd hapus,—gwae sy'n amheus
Oi allu a'i 'wyllys, cariadus, gweddus, gwiw,
Mae'r 'sgrythyr oll yn gytun yn dangos hyn, on'd yw;
Di frad, gwnaeth ef angylion gâd,
I'w wasanaethu a'i anrhydeddu,Heb. i. 14.
A'r moddion hyny oedd yn cyd—dynu â'r Tad,
Fel hyn amlygai ei agwedd wir gariad rhyfedd rhad.

A Lucifer mewn rhyfyg, gyfodai'n felldigedig,
Wenwynig anian;
Mewn balchder brenin pechod, chwennychodd drechu'n hynod,
Dduw ei hunan;
'Run awr aeth Lucifer i lawrDat. xii.
O'r nefoedd uchod i'r ddaear isod,
Y pwll diwaelod, gan godi ei wiwnod wawr;
Am ch wennych m or anmharchus i'r Arglwydd moddus mawr;
O'r nyth, lle syrthiodd ef drwy druth,
Nid eill mo'r dringo, os yw'n ewyllysio,
Gau rwymiad sy arno, sef yno i'w suddo'n syth,
Heb ob aith cael cyfnewid o'i adfyd funud fyth.


A'r Arglwydd a wnaeth Adda, yn gyfion gydag Efa,
Dedwydda' deuddyn;
Os cadwent 'rhyn a archai, nas gallai dim drwy'r dyddiau
Wneyd niwed iddyn';
Un clwy', nid oedd yn Eden trwy,
Na thân i'w llosgi, na dwfr i'w boddi,
Na gwres nac oerni, byth i'w dihoeni hwy,
Ac eto os gwnaent ond pechu, ni pharai hyny'n hŵy;
A'r dyn, pob peth oedd yn gytun,
Holl waith ein Llywydd, creaduriaid beunydd,
Oedd gyda'u gilydd yn llonydd yn eu llun,
Heb ynddynt un gynddaredd na naws anweddaidd wŷn.

A chwedi, yn mhen 'chydig, daeth Satan felldigedig
I ymgynyg yno,
Fel carwr ffals, anffyddlon, nes hudo'r wraig wan galon,
Ac Adda, i'w goelio;
Fe wnaeth hen Adda ac Efa'n gaeth,
Am dòri'n eglur orchymyn cywir
Eu doeth Benadur,—beth allent wneuthur waeth;
Pan goelient eiriau'r gelyn caent ddychryn sydyn saeth;
A'r dyn, a serchodd arno ei hun,
Dim hŵy nis bwytai Baradwys ffrwythau,
Oedd dda'n ddiameu, i'w ran ni fynai'r un,
Ond porthi ei anian gnawdol, eilunod oedd ei lun.

Nid oedd ar Dduw mo'r ddyled i 'mwisgo â chawd i'n gwared,
Mae'i air yn gwirio;
'R oedd cariad a thrugaredd, ni welwn yn ddiwaeledd,
Ddigonedd ganddo;
Y draul, a fwriai fe'n ddiffael,
Cyn iddo amlygu, na bod mewn beudy,
Fe wyddai'r Iesu beth oedd heb gelu i'w gael,
Nid llai na marw'n galed, 'rwy'n gweled tros ddyn gwael;
Oen ne', pan ddaeth i Fethle'm dre',
A chael ei eni o'r forwyn Fari,
Ei elynion difri fel llwyni oedd yn mhob lle,
A Herod, gynta', oedd waedlyd am ddwyn ei fywyd E.

Yn ddiwad 'roedd Iuddewon yn bobl uchel feilchion,
O galon galed;

Nis mynent hwy mo'r coelio mai dyma'r cywir Silo,
A rag-groeshoelied:
A hyn, sef anghrediniaeth dyn,
A'i gwnai'n anniddig, fel Satan ffyrnig,
Yn felldigedig mewn rhyfyg sarug syn,
Gan chwennych rhyw ddrwg ddiwedd i'r gwir Oen gwaraidd gwyn;
Fel gwas, cynnygiai i Israel ras,
Rhan fwya'n sydyn cyfodai i'w erbyn,
Yn llwyr ysgymun, mewn ysbryd cyndyn cas,
Nis clywent ar ei eiriau gan flin faleisiau fas.

A Christ, er llwyr gyflawni gair Moses a'r proffwydi,
Gwnai ymroddi 'n rhwyddaidd,
I ddwylaw pechaduriaid, sef tros yr ethol ddefaid;
Yr aeth mor ddofaidd;
Lle bu, yn llonydd yn ngwydd llu,
Yn dyodde' ei gleisio yn lle'i holl eiddo,
A'i wydn wawdio, ac yno ei hoelio'n hy';
Ac felly tan y felldith yn prynu bendith bu:
Fel saeth, trwy'r cystudd mawr yr aeth,
Gan ddangos ini ffordd pob daioni
I wlad goleuni, a'i llwyr ddynoethi a wnaeth,
Ac yno yn ngwydd y tystion, i'r nef Oen union aeth.

Yn Iesu'r ymddangosodd y ddelw gynt a gollodd
Y ddeuddyn gwallus;
Yr hon oedd gwir santeiddrwydd a ffrwythau pob perffeithrwydd,
Hylwydd hwylus;
A'r dyn, sy i ymwadu âg ef ei hun,
Yr unrhyw ddelw, mewn rhan, sy ar hwnw,
Mae Crist i'w alw yn Frawd, heb groyw gryn,
Mewn bywyd a 'marweddiad, mae'u tyniad yn gytun;
I hyn y ganwyd Iesu gwyn,
I ollwng allan ei bobl egwan,
O garchar syfrdan hen aflan Satan syn,
A'u dwyn at fyrdd o angylion i fro neu Seion fryn.

A'r sawl sy heb gael dychweliad, gwnewch chwilio gair Duw'n wastad,
Neu wrando'n ystig;
Yn aml fel hyn yma, bu rhai'n cael ffydd, mi brofa',
Drwy hyny'n unig;

'Roedd un yn darllen iddo ei hun
Broffwydoliaeth am Iesu o Nazareth,
Mewn anwybodaeth, di—elyniaeth oedd ei lun,
Daeth Philip i'w gyf'rwyddo, gan wir fedyddio'r dyn.
Fe drodd ynghylch tair mil un modd,
Wrth wrando ar Bedr yn dweyd trwy burder,
Eu beiau a'u harfer ysgeler nid ysgodd,
A'u calon wrth ei wrando oedd yn merwino, ymrôdd.

Ymroddwn ninau heddyw i Dduw, ni a allwn farw
Cyn y foru;
Dychwelwch chwi rai uchel, a dewch gerbron yn isel,
Y Brenin Iesu;
Pwy ŵyr ai haner dydd ai hwyr,
Y daw'r Oen did wyll i farnu ar fawrbwyll,
Gan losgi'n fyrbwyll y byd fel canwyll gŵyr;
Yr Arglwydd o'r uchelne', Efe yw'r goreu a'i gwyr;
O Dad! sy'n llawn o bob gwellhad,
Gwna ni'n ddilynwyr Crist heb rwystr,
'Nol gair y 'sgrythyr, fel brodyr heb ddim brad,
Gan roddi i ti'n ddiddiwedd anrhydedd a mawrhad.

Y sawl ar hyn sy'n gwrando, yr Arglwydd a'th gynhyrfo,
I'w goelio heb gilwg;
Nid gair disylwedd salaf, ond geiriau Duw Goruchaf,
Sydd yma'n amlwg:
Fe fydd y geiriau hyn heb gudd,
Ddydd barn i'n safio, neu ein condemnio,
Sant Paul sy'n tystio, ac Esay i'w selio sydd;
Nid aiff gair Duw dan gwmwl, na'i feddwl yn ddifudd;
Tawdd rhai gan wres gair Duw di drai,
A':sawl nis toddant fe'u seria â'i soriant,
Am hyny ymhoenant, caledu wnant fel clai,
Y rhai'n ânt yn gaeth—weision, a'r lleill yn Seion sai'.

—DANIEL JONES.


ARGRAFFWYD GAN H. HUMPHREYS, CAERNARFON.

Nodiadau

[golygu]