Un ohonoch, adar cerdd, Yw fy nghalon innau,
Pan y cwsg y glaswyrdd lwyn Uwch ei fil cysgodau;
Pan fo wyneb môr a nef Fel pe am y glasaf —
Gwae aderyn gân cyn pryd, Gwae na chân Gorffennaf.
Oni wnaed y fro yn ardd Heb yr un diffeithwch?
A phob gardd o fewn y fro'n Wyllt —dir o brydferthwch?
Fel y gloyn, claf o serch Yw fy nghalon innau;
Gwn pa beth yw cael fy nal Yn nyrysni'r blodau.
Chwa Gorffennaf ddaw i'm ty Yn y bore melys,
Gyda neithdar maes a môr Ar ei lleithiog wefus;
Onid merch y môr a'r maes Yw fy nghalon innau;
Câr fugeilio'r gwenith gwyn, Câr gyfeillach tonnau.