Telynegion Maes a Môr/Mai
Gwedd
← Ebrill | Telynegion Maes a Môr Telynegion y Misoedd gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion y Misoedd |
Mehefin |
MAI.
Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi yn yr helyg,
Gyda'i flodau fel y barrug —
Gwyn fy myd bob tro y dêl.
Eis yn fore tua'r waen,
Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
Ond yr oedd y gwersyll cynnar
Wedi codi o fy mlaen.
Eistedd wnes tan brennau'r Glog,
Ar ddyfodiad y deheuwynt;
Edn glas ddisgynnodd arnynt
Gan barablu enw'r gog.
Ni rois gam ar lawr y wig
Heb fod clychau'r haf o țano,
Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.
Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi, gyda'i flodau,
Gyda dydd fy ngeni innau —
Gwyn fy myd bob tro y dêl.