Telynegion Maes a Môr/Mawrth

Oddi ar Wicidestun
Chwefror Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ebrill

MAWRTH.

BETH a welais ar y lawnt,
Gyda, wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
Wedi codi yn rhy gynnar.

Beth a welais ar y llyn,
Rhwng y dwfr a brig yr onnen?
Lliw a modrwy brithyll Mawrth —
P'le mae'r enwair, p'le mae'r bluen?

Beth a welais ar y twyn?
Wyneb oen, y cynta eleni:
Onid oen yw Mawrth ei hun
Pan fo'r wyn yn cael eu geni?

Beth a welais yn y dref?
Mynwent gyda'i phorth yn ddatglo;
Aed y claf o'i dŷ ym Mawrth,
Ni ddaw'n ôl i gysgu yno.