Telynegion Maes a Môr/Os wyt Gymro

Oddi ar Wicidestun
Y Porth Prydferth Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gŵyl a Gwaith

OS WYT GYMRO.

Os wyt Gymro hoff o'th wlad,
A hoff o'th dadau dewrion,
Cadw ŵyl er mwyn dy had —
Ni waeth beth ddywed estron, —
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon.

Os wyt Gymro hoff o'th iaith,
A hoff o'i bardd a'i phroffwyd;
Heddiw twng y filfed waith
I'w chadw fel ei cadwyd:
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.

Os wyt Gymro hoff o'th Sant,
A hoff o'r cysegredig;
Cadw wyl, er mwyn dy blant,
I Ddewi, wyr Ceredig; —
Cas yw'r gŵr nas câr ei wlad,
Boed dlotyn neu bendefig.