Telynegion Maes a Môr/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Telynegion Maes a Môr Telynegion Maes a Môr
Rhagymadrodd
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Rhagymadrodd
Cynhwysiad

RHAGYMADRODD

GERLLAW yr Eryri
A Chantref y Lli,
Mi genais i Gymru
O serch ati hi ;
Cyweiriais fy nhannau
A gwynfyd fy oes,
Ces fwynder o'm telyn-
Ces lawryf, a loes.

Ond canaf i'm henfro
Tra bo gennyf dant,
Am lys yn ei bywyd,
A bedd hefo'i phlant;
Os sethrir fy nghalon
Fel gwinwryf tan draed,
Caiff Cymru win newydd
O redli fy ngwaed.

Ar deir-rhes fy nhelyn
'Rwy'n canu o hyd,
I drioedd fy hoffedd
Athlysion y byd ;
A rhowch imi groeso,
Neu rhowch imi sen,
Caf fwynder o'm telyn,
A chusan gan Men.

EIFION WYN.
Mai, 1908.