Telynegion Maes a Môr/Serch

Oddi ar Wicidestun
Yr Afal Melyn Telynegion Maes a Môr
Telynegion Serch
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Serch
Cynnig Calon

SERCH.

HEDAI dau aderyn
Hwyrol tros y ddaear;
Clywn y naill yn galw,
Galw ar ei gymar —

O, mae serch ym mhopeth
Trwy y cread llydan;
'Châr yr un aderyn
Hedfan wrtho'i hunan.

Hedai'r ddau aderyn
Heibio mewn cymundeb;
Clywn y naill yn galw,
Clywn y llall yn ateb —

O, mae serch ym mhopeth,
Pe bai dyn yn deall;
Unig pob aderyn,
Heb aderyn arall.