Telynegion Maes a Môr/Tachwedd
Gwedd
← Hydref | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Rhagfyr → |
TACHWEDD.
Pwy sydd yn dyfod fin nos i lawr,
A chuwch ar ei ael, dros y Moelwyn Mawr?
Gwyntyll y corwynt sydd yn ei law,
A thrwy ei lawrdyrnu yfory y daw;
Caeaf fy nôr nes dywedo'r wawr
Pwy syfl dylathau y Moelwyn Mawr.
Chwardd yn ei afiaith fel cawr mewn gwin,
A'i fantell amdano fel enfys grin;
Casgl y crinddail wrth sơn ei droed
I'r aelwyd aniddos ym murddun y coed:
Pwy sydd yn crechwen yn droeog flin,
A'i fantell symudliw fel enfys grin?
Cwsg yn anesmwyth, a sang bob bryn,
Cyn diosg ohono 'i sandalau gwyn —
Rhiain ei serch yw'r gelynen werdd,
Ac adar y ddrycin ei adar cerdd:
Pwy sydd yn cerdded o fryn i fryn,
Cyn diosg ohono 'i sandalau gwyn?