Telynegion Maes a Môr/Yr Afon

Oddi ar Wicidestun
Y Llanw Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Porth Prydferth

YR AFON.


CAETHES y glannau,
A'i chri am ryddhad;
Dyna yw'r afon —
Merch fach yr eigion
Gaethgludwyd o'i gwlad.

Hirnos a gwawrddydd,
Ar dywod a gro —
Ceidw ym mhoblle
Ei hwyneb at adre,
Fel rhiain o'i bro.

Nid eill y marian
Arafu ei lli,
Na'r glasgoed ei llithio,
Ond i orffwyso —
Y môr iddi hi.

Sia'n wylofus,
Ar lechwedd a dôl;
Hiraeth sydd arni,
Ac nid yw'n ei golli
Nes cyrraedd yn ôl.