Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XXVIII

Oddi ar Wicidestun
Mathew XXVII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Marc I
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)


PENNOD XXVIII.

1 Dangos adgyfodiad Crist i'r gwragedd gan angel. 9 Crist ei hun yn ymddangos iddynt. 11 Yr arch-offeiriaid yn rhoddi arian i'r milwyr, i ddywedyd ddarfod ei ladratta ef allan o'r bedd. 16 Crist yn ymddangos i'w ddisgyblion, 19 yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddysgu yr holl gen- hedloedd.

AC yn niwedd y Sabbath, a hi dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bedd.

2 Ac wele, bu daear-gryn mawr: canys disgynodd angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.

3 A'i wynebpryd oedd fel mellten, a'i wisg yn wèn fel eira.

4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.

5 A'r angel a attebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu yr hwn a groeshoeliwyd.

6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.

7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddisgyblion, gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.

8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd âg ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddisgyblion ef.

9 ¶ Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu a hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.

10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y'm gwelant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wyliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid.

12 Ac wedi iddynt ymgasglu yng hyd gyd â'r henuriaid, a chyd-ymgynghori, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr,

13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladrattasant ef, a nyni yn cysgu.

14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddïofal.

15 A hwy a gymmerasant yr arian a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt:



a thaenwyd y gair hwn ym mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.

16 ¶ A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai yr Iesu iddynt.

17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ammheuasant. 18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear

19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân;

20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

Nodiadau[golygu]