Neidio i'r cynnwys

Teulu Bach Nantoer/Pennod I

Oddi ar Wicidestun
Teulu Bach Nantoer Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod II

Teulu Bach Nantoer


PENNOD I

UN o nosweithiau hir y gaeaf oedd.

Oddi allan, rhuai'r gwynt a disgynnai'r glaw, ond ar aelwyd glyd Nantoer, gwenai'r tân yn siriol, ac yr oedd gwedd gysurus ar y teulu bychan o'i flaen. Newydd fynd heibio oedd y Nadolig, a gadawsai'r tymor hwnnw ei ôl yma fel mewn mannau eraill. Daethai rhyw Santa Clôs caredig heibio hyd yn oed i'r bwthyn bach ar fin y rhos, ac yn hapus a distaw, yn y mwynhad o'i roddion, y cawn, ar yr hwyr garw hwn, ein golwg gyntaf ar y teulu.

Ar bob ochr i'r tân, o dan y simne fawr, ymestynnai dau bentan hir. Ar y naill, eisteddai Ieuan, llanc llygatddu deuddeg oed, a'i bwys ar ei law, yn prysur ddarllen llyfr. Ar y llall yr oedd Alun a'i brennau a'i ysglod a'i offer saer, yn dwyn i fod ryw ryfeddod newydd mewn gwaith coed. Tua deg oed oedd ef, a golau oedd ei wallt a'i lygaid. Ar bob i ystôl fechan, eisteddai Mair ac Eiry fach, a phen tywyll y naill a gwallt modrwyog melyn y llall yn cwrdd â'i gilydd uwchben y llyfr darluniau newydd a oedd o'u blaen. Saith oed oedd Mair, a dwy flwydd a hanner oedd Eiry. Wrth y ford gron a'r lamp eisteddai Gwen Owen, y fam, yn prysur wau hosan, a'i llygaid yn aros yn garuaidd ar y naill ar ôl y llall o'i hanwyliaid bach.

Ni welid y tad ar yr aelwyd Ers mwy na dwy flynedd yr oedd enw Elis Owen wedi ei gerfio ar garreg fedd ym mynwent Y Bryn. Anaml y soniai'r fam am dano wrth y plant. Gwell oedd ganddi i Ieuan ac Alun beidio â'i gofio o gwbl, nag iddynt ei gofio yn dad meddw yn blin ymlwybro tua'r tŷ yn hwyr y dydd. Gan iddo wario ei holl arian, a marw cyn cyrraedd canol oed, gorfu i'r weddw ieuanc ofyn am help y plwyf i fagu ei phedwar plentyn. Enillai hithau ychydig drwy wnïo i hon ac arall, fel y gwnai yn gynharach yn ei bywyd, ac yr oedd yn Nantoer ddigon o dir i gadw un fuwch.

Gwraig dal oedd Gwen Owen. Gwallt du, tonnog, fel gwallt Mair, oedd ganddi, ond bod llinellau arian drwyddo i gyd erbyn hyn. Yr oedd edrychiad ei llygaid yn dyner a dwys, a thawel bob amser oedd ei llais. Yr oedd y plant i gyd wedi dysgu bod yn ufudd iddi. Gwnaent bob amser, yn llon, yr hyn a geisiai, ac yn ôl eu barn unol a diysgog, nid oedd mam hafal i'w mam hwy gan neb o fewn y byd.

'Mam," ebe Ieuan yn sydyn, gan gau ei lyfr," teulu tlawd ŷm ni, onid ê?"

"Ie, mae'n debyg, 'machgen i," ebe'r fam yn ddistaw, Pam 'rwyt ti'n gofyn ?"

"Wedi bod yn darllen am Abraham Lincoln wyf. 'Roedd yntau mor dlawd ag y gallai fod, pan oedd yn blentyn, ond ef oedd prif ddyn America cyn iddo farw. Un fel Abraham Lincoln wyf fi'n mynd i fod pan ddof yn ddyn."

Edrychodd ei fam arno am funud cyn ateb. Mor debyg oedd i'w dad yn edrychiad ei lygaid! Yr oedd ei dad wedi bwriadu gwneud pethau mawrion, ond ar ôl dechrau llithro, yn is ac is yr aethai, nes cyrraedd y bedd cyn gwneud dim. Ai felly y byddai hanes Ieuan? Na, er tebyced oeddynt, yr oedd mwy o benderfyniad yn wyneb y mab. Hwyrach mai ym mywyd Ieuan y cai bwriadau ei dad, druan, ddod i ben! A hi, ei fam, oedd i'w gychwyn ar ffordd bywyd. Bwysiced y gwaith!

"Pam 'rwyt ti am fod fel Lincoln ?" gofynnai.

"'Roedd ef mor dlawd, a neb yn gwybod ddim amdano, a dyna fe wedi codi i fod yn uwch na'r dynion cyfoethog i gyd, yn feistr ar bawb. Dyna hanes pert yw e'!" ebe Ieuan, a'i lygaid yn disgleirio.

"Ie," ebe'r fam, "ond er bod Lincoln yn ddyn o allu mawr, ni fuasai wedi codi fel y gwnaeth, oni bai iddo roi'r gallu hwnnw i gyd er mwyn gwneud y byd, ac yn enwedig ei wlad, yn well. Nid meddwl am ddod yn enwog 'roedd ef, ond edrych am le i wneud daioni i eraill 'roedd o hyd. Rhai felly yw dynion mawr y byd i gyd. Mae digon o le yn y byd i tithau i weithio. Mae eisiau rhai i weithio dros Gymru. Os gwnei di'r defnydd gorau o'th amser a'th allu, ac os byddi'n fachgen da o hyd, fe ddeui dithau- bachgen bach o Gymro-yn ddyn mawr ryw ddydd."

Gwrando heb ddweud gair a wnai Ieuan, fel y gwnai bob amser pan siaradai ei fam yn ddwys wrtho fel yn awr.

"Morwyn mam wyf fi'n mynd i fod," ebe Mair, gan godi oddiar ei hystôl, a phlethu ei braich am fraich ei mam.

"O'r gore, Mair," ebe'r fam. "Feallai y gwnei di gymaint o les yn y byd fel hynny. Mae llawer o'r bobl orau yn byw trwy eu hoes heb fawr o sôn amdanynt.

"Hei," ebe Alun, heb glywed dim o'r siarad, dyma fi wedi gwneud llong. Edrychwch ar yr hwylbren dal a'r hwyl wen yma! A gaf fi fynd i'w threio ar yr afon fach, mam?"

"Heno, ar y glaw yma? Na, mae yfory'n ddigon cynnar at hynny, 'machgen i."

"'Nawr, Eiry fach, mae'n hen bryd dy fod di yn dy wely," ebe hi, gan godi'r un fechan ar ei chôl. Beth mai Eiry fach yn mynd i fod, ys gwn i?"

Plentyn nodedig o dlws oedd Eiry. Yr oedd ei gwallt fel modrwyau aur o gylch ei phen, a chroen ei thalcen, ei gwddf, a'i breichiau, unlliw â llaeth newydd ei odro. Yr oedd gwên ar ei hwyneb yn wastad, a direidi lond ei llygaid glas. Gwnai gyfeillion o bawb. Yr oedd pawb a'i gwelai yn synnu at ei thlysni ac yn ei charu. Nid rhyfedd fod ei mam, wrth ei gwasgu at ei chalon, yn gofyn yn bryderus "Beth, blentyn annwyl, fydd dy hanes di?"

Nodiadau

[golygu]