Ti, Farnwr byw a meirw

Oddi ar Wicidestun
Ti, Farnwr byw a meirw

gan William Williams, Pantycelyn

Bydd myrdd o ryfeddodau

665[1] Sefyll yn y Farn

.

76. 76. D.

1 TI, Farnwr byw a meirw,
Sydd ag allweddau'r bedd,
Terfynau eitha'r ddaear
Sy'n disgwyl am dy hedd;
'D yw gras i Ti ond gronyn,
Mae gras ar hyn o bryd
Ryw filoedd maith o weithiau
I mi yn well na'r byd.

2 O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ie, sefyll cyn bo hir;
Nid oes a'm nertha yno
Ond dy gyfiawnder pur:
Myfi anturia'n eon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân,
Heb olau a heb lewyrch,
Ond dy gyfiawnder glân.


—William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 665 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930