Neidio i'r cynnwys

To a Mountain Daisy—Robert Burns - Llygad y Dydd—J C Davies

Oddi ar Wicidestun
Scots Wha Hae—Robert Burns - Robert Bruce - I'w fyddin D L P Cyfieithiadau o gerddi i'r Gymraeg
Robert Burns
gan Robert Burns

Robert Burns
wedi'i gyfieithu gan D L P
A Man’s a Man for a’ That - Mae Dyn yn Ddyn Er Hyn Oll

To a Mountain Daisy
BY ROBERT BURNS
On Turning One Down with the Plow, in April, 1786

Wee, modest, crimson-tippèd flow'r,
Thou's met me in an evil hour;
For I maun crush amang the stoure
Thy slender stem:
To spare thee now is past my pow'r,
Thou bonie gem.

Alas! it's no thy neibor sweet,
The bonie lark, companion meet,
Bending thee 'mang the dewy weet
Wi' spreck'd breast,
When upward-springing, blythe, to greet
The purpling east.

Cauld blew the bitter-biting north
Upon thy early, humble birth;
Yet cheerfully thou glinted forth
Amid the storm,
Scarce rear'd above the parent-earth
Thy tender form.

The flaunting flowers our gardens yield
High shelt'ring woods an' wa's maun shield:
But thou, beneath the random bield
O' clod or stane,
Adorns the histie stibble-field
Unseen, alane.

There, in thy scanty mantle clad,
Thy snawie-bosom sun-ward spread,
Thou lifts thy unassuming head
In humble guise;
But now the share uptears thy bed,
And low thou lies!

Such is the fate of artless maid,
Sweet flow'ret of the rural shade!
By love's simplicity betray'd
And guileless trust;
Till she, like thee, all soil'd, is laid
Low i' the dust.

Such is the fate of simple bard,
On life's rough ocean luckless starr'd!
Unskilful he to note the card
Of prudent lore,
Till billows rage and gales blow hard,
And whelm him o'er!

Such fate to suffering Worth is giv'n,
Who long with wants and woes has striv'n,
By human pride or cunning driv'n
To mis'ry's brink;
Till, wrench'd of ev'ry stay but Heav'n,
He ruin'd sink!

Ev'n thou who mourn'st the Daisy's fate,
That fate is thine—no distant date;
Stern Ruin's ploughshare drives elate,
Full on thy bloom,
Till crush'd beneath the furrow's weight
Shall be thy doom.

LLYGAD Y DYDD,
WRTH EI DROI I LAWR DAN GWYS YR ARADR.
J C Davies

BACHIGYN wylaidd freilw mwyn-gu,
Drwg yw dy gwrdd pan wyf yn aru;
O dan y briddell y rhaid baeddu
Dy baladr main;
Dy arbed sydd uwch law fy ngallu,
Flodeuyn cain!

Och! nid dy gymmydog dedwydd,
Dy fwyn gydymaith, yr ehedydd,
A'th blyga gyda gwlith boreuddydd,
A'i ddwyfron flydd,
Pan esgyn i groesawu'n ufydd
Wawr y dydd.

Yn oer y chwythai gwynt gorllewin,
Pan darddaist yn y gauaf gerwin;
Ond codaist yn dy wylltedd iesin
I oddef hin;
A phrin ymddangos cyn i'r ddryghin
Fod yn flin.

O fewn ein gerddi y cawn flodau,
Ac i'w cysgodi goed a muriau :
I ti nid oes ond antur gaerau
O bridd neu faen,
Tra yr addurni ein mynyddau,
A’th ddail ar daen.

Ac yn dy fantell brin ymdrwsi
Dy wenfron dyner a ledaeni,
Dy wylaidd egwan ben ddyrchefi
Mewn symledd glwys;
Ond gan yr aradr y suddi
O dan y gwys.

Mal hyn yw tynged didwyll feinir,
Mewn gwledig fwth a dyner fegir,
Gan symledd cariad a fradychir,
A hudol wedd,
Ac yna'n ddifwynedig gleddir
Yn y bedd.

Mal hyn yw tynged syml brydydd,
Ar eigion bywyd yn anhylwydd !
I droion amser yn anghelfydd,
Heb ddysg na dawn;
Ac i'r dygyfor cwymp yn ebrwydd,
Cyn gwel ei nawn !

Mal hyn y teilwng a ddyoddefa,
Mewn gwae ac eisiau yr ymdrecha,
Tra dichell balchder a'i herlyna
I ofyd dwys;
Heb obaith ond y Nef, ymsudda
O dan ei bwys !

A thi, sy'n cwyno uwch y breilw,
Dy dynged tithau fydd y cyfryw ;
Hen aradr Adfail fydd dy ddystryw
Yn eiddil wan;
A dy falurio yn y rhelyw
Fydd dy ran!