Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Teyrnged Cenedl a Dylanwad Bywyd
← Fel Cristion | Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd gan O Llew Owain |
→ |
PENNOD V
TEYRNGED CENEDL A DYLANWAD BYWYD
"Saif cenedl weddw uwch y bedd yn syn
Mewn galar-wisgoedd o och'neidiau dwys;
A disgwyl codi o'i hanwylyd fyn i gyffro tannau'i chalon sydd dan bwys
Cyfaredd marwol beunydd wrth y bedd,
A'i gwerthfawr nard ' yn perarogli'r fan,
Collodd y wawr pan gollodd hi ei wedd, -
Breuddwydia y try'n ddydd pan gwyd i'r lan."
DYFNALLT.
"Os cerfiwch eich enw drwy garedigrwydd, cariad, a thrugaredd ar galonnau y bobl y deuwch i gyfarfyddiad â hwy y naill flwyddyn ar ol y llall, ni anghofir chwi byth," meddai Mrs. Ann Royall, ac y maent yn eiriau sydd yn cael eu gwireddu gyfnod ar ol cyfnod yn hanes y byd. Gweithiodd Tom Ellis y cyngor hwn allan yn ei fywyd, ac yn ei farwolaeth rhoddodd ei genedl deyrnged o barch iddo am hynny. Dyna a wna y cymeriad ymroddedig bob amser—ennill edmygedd y llu. Dichon y bydd iddo wrth gerdded llwybr uniondeb dramgwyddo rhai, ond ymostynga y cyfryw un i roddi teyrnged briodol o barch i'r cymeriad a gyflawna ei ddyledswydd pan ddaw hynny i'w ran. Y mae'r cymeriad gonest a'r un a ymrodda o ddifrif i gyflawni ei ddyledswyddau, yn sicr o orchfygu rhagfarn.
Danghoswyd ddydd angladd ein gwrthrych pa mor ddwfn yr oedd wedi suddo i galonnau ei gydwladwyr. Cafodd deyrnged tywysog, a theyrnged a wir haeddai. Gŵr oedd Tom Ellis a wnaeth bopeth yn iawn, a hyn a dynnodd y miloedd i Gefn Ddwysarn pan roddwyd ei weddillion i orffwys. Amcangyfrifid fod tua deng mil yn ei angladd Pwy o blith gwerinwyr a gafodd y fath angladd? Yr oedd yn alar gwirioneddol a'r awydd i roddi parch iddo yn un dwfn.
Er mai bore oer, barugog yn Ebrill, 1899, oedd, ni lesteiriwyd y miloedd rhag dod yno. Er gerwined a brynted y tywydd gwelid rhai yn cychwyn, cyn i'r wawr dorri, yn eu cerbydau drwy'r eira a'r cenllysg. Galarwyr calon-glwyfus oeddynt. Cychwynnodd rhai o'r cymoedd anghysbell a gwledig, a golygai hyn fod yn y barrug a'r eira oer am oriau, ond yr oedd eu sêl a'u hawydd am roddi y "deyrnged olaf" i dywysog, yn gwneud iddynt anghofio popeth. Nid oeddynt am adael i'r cyfle fyned heibio - yr oedd arnynt eisiau bod yn llygad-dystion, ac fel y dywedodd Dr. Hughes,—"We are here to bear witness to the beautiful flower of a perfect life." Yr oedd pob calon yn y dorf yn barod i gadarnhau hyn.
Nid teyrnged o barch yn dod o un cyfeiriad oedd; nid parch sect, plaid, nag enwad oedd. Na! parch a lifai o bob cyfeiriad oedd. Y dydd y rhoed Corff Tom Ellis i orwedd i lawr yn naear CefnDdwysarn, prin y buasai neb yn meddwl fod mwy nag un enwad crefyddol yng Nghymru; ni fuasai neb yn coelio fod mwy nag un blaid wleidyddol yn Senedd Prydain Fawr, ac ni buasai neb yn meddwl fod gwahaniaeth barn ar bynciau gwleidyddol yn Sir Feirionnydd. Yr oedd dagrau pawb yn cael eu tywallt i'r un goetrel. Daeth y leddf-gwyn o wahanol ffynhonellau, ac ni allasai ond y cymeriad, y gwladgarwr, a'r gwleidydd gwirioneddol ennill y fath deyrnged.
Yr oedd angladd ein gwrthrych yn un nodedig. Yno yr oedd yr uchelwyr a'r gwerinwyr cyffredin wedi cyd-gynnull; cynrychiolaeth o bob plaid wleidyddol, pob enwad crefyddol, cyfoedion bore oes, cyd-efrydwyr yn yr ysgolion a'r colegau, ynghyda diwygwyr gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol. Yr oedd y pulpudau y telid gwarogaeth i'r cymwynasydd mawr hwn cyn lleted a Chymru.
Yr un adeg ag y cynhelid gwasanaeth yn y capel yn y Bala, lle'r oedd gweinidogion a gwleidyddion o bob gradd, yr oedd gwasanaeth arall yn cael ei gynnal yn St. Margaret, Llundain, ac yno gwasanaethid gan Ganon Wilberforoe, Caplan Tŷ'r Cyffredin, a Deon Farrar. Danghosai'r cyfarfod diweddaf pa beth a fu dylanwad y Cymro syml o Gynlas yn seddau uchaf y cylch gwladol. Hwyr yr un dydd cynhelid gwasanaethau mewn amryw leoedd ar hyd a lled y wlad. Hefyd, cynhelid gwasanaethau coffa iddo yng ngwahanol Golegau y wlad, ac aml oedd y dagrau a ollyngid ynddynt. Ymunodd Cynghorau Gwladol ein gwlad hefyd i ddatgan eu parch i'w fywyd a'i waith.
Uchel oedd y deyrnged a delid iddo ymhobman, ond gofod a ballai i ni ymdroi gyda'r oll. Wele deyrnged Mr. J. Issard Davies, Caernarfon, mewn cyfarfod a fu yno gan Lywodraethwyr yr Ysgol Sir–
"Bydd marwolaeth Tom Ellis yn golled bersonol i bobl Cymru 'ar wahan i blaid neu gredo. Efe oedd blaenffrwyth y symudiad addysgol yng Nghymru. Bydd ei esiampl ef yn symbyliad i Gymry ieuainc y dyfodol am genedlaethau lawer."
Wele eto deyrnged Mr. Hudson, Brighton, ysgrifennydd y Cyngrair Rhyddfrydol, iddo:—
"Yr wyf wedi fy nharo gan y newydd dychrynllyd. Yr ydych wedi colli mab rhagorol, a Mrs. Ellis y gŵr cywiraf, a minnau fy nghyfaill mwyaf anwyl."
Yr oedd sylwadau tyner cyffelyb i'r uchod yn llifo o bob cyfeiriad ar ol ei farw.
"Bydd ewyllys y rhai pur yn rhedeg i lawr ohonynt i natur rhai ereill, yn union fel y rhed dwfr o lestr uwch i lestr is," meddai Emerson. Dylanwad bywyd! Beth sydd brydferthach na bywyd pur—bywyd fydd yn perarogli yn y cylch y bydd yn tyfu, ac yn gadael ei ddylanwad ar ei ôl? Beth yw addysg, cyfoeth, sefyllfa gymdeithasol, a gwarogaeth gwlad o'u cymharu â chymeriad glân? Dynion y cymeriadau pur sydd wedi gadael eu dylanwad ar y byd, a hwy ydyw'r cyfryngau wedi bod i ddyrchafu dynoliaeth. Beth a fuasai hanes a sefyllfa foesol amryw wledydd onibai am y cymeriadau purwyn a fu ynddynt fel heuliau yn taflu eu pelydrau llachar yn eu cylch? Y mae Tom Ellis yn huno yn naear Cefn Ddwysarn, ond y mae dylanwad ei fywyd yn aros gyda ni. Os ydyw y bedd bychan ger y Bala yn ddigon i guddio ei gorff, nid yw Cymru yn ddigon mawr i gladdu ei ddylanwad. Y mae ef yn fyw ar ol marw. Nid llawer sydd felly. Y mae llawer wedi marw er yn fyw. Marw i fyw wnaeth ef tra y mae llawer yn byw i farw. Y mae pethau bach a phethau mawr ei fywyd yn siarad wrthym heddyw. Cenhadwri sydd yn cyrraedd at bawb ydyw dylanwad ei fywyd ef. Y mae ei ddylanwad yn adseinio i lawr o ddydd i ddydd. Yr oedd Cymru o dan gwmwl pan fu farw, eto, bu ei farw fel agoriad yn datgloi'r ddor ar waith mawr ei fywyd. Dengys dylanwad ei fywyd ar y llwybr i ni tua chyfandir rhyddid. Torrwyd y cadwynau ganddo ef, ac y mae ei ysbryd yn llefaru yn glir.
"Ymlaen! Ymlaen! Chwi Gymry gwladgarol!" ydyw ei genadwri i ni heddyw. Er i'r genedl gael ei chlwyfo ddydd ei farw cafodd ei chlwyfo. i ddeffro. Er ei fod yn wrol a beiddgar yr oedd yn llednais a gostyngedig; er ei fod yn danbaid a gwladgarol yr oedd yn ddoeth a gofalus; yr oedd yn fawr yn ei fywyd, yr oedd yn fwy yn ei farw. Edmygid ef yn fawr gan ei gydoeswyr, ond edmygir ef yn fwy gan yr oesau a ddel. Yr oedd syniad ei gyfeillion yn uchel am dano, ond bydd syniad yr oesau a ddel yn uwch. Bydd ei gynlluniau a'i ddelfrydau wedi cael amser i ddatblygu i'w maintioli erbyn hynny, ac wedi dyfod yn rhan o fywyd y genedl. Gosododd ef y seiliau i lawr ond y mae'r muriau i gael eu hadeiladu yn y dyfodol. Nid gwaith yn darfod wrth ei ddechreu oedd ei waith ef.
Carodd Cymru ef yn fawr, ac y mae ei pharch iddo heddyw yn ddi-fesur. Saif ei gofgolofn i roddi ysbrydiaeth yng Nghymry ieuainc y dyfodol, i'w gwneud yn wladgarwyr gwirioneddol. Os am fod yn gymwynaswyr gwirioneddol rhaid iddynt yfed o ysbryd, mabwysiadu nodweddion, a chael purdeb a lledneisrwydd cymeriad y diweddar a'r anwyl.
"ARWR O GYNLAS"