Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Trem ar ei Fywyd

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd

gan O Llew Owain

Gwladgarwr a Gwleidydd

TOM ELLIS

PENNOD I

TREM AR EI FYWYD

"Troaist dy glust at wirionedd Nef
Yn aiddgar dy wedd,"

Meddai y diweddar Ben Bowen am un o'i gyfeillion hoff. Gyda phriodoldeb y gallwn gymhwyso yr un gwirionedd at y diweddar a'r annwyl Tom Ellis. Hyn a wna diwygwyr a phroffwydi pob oes. Cyfryngau fel hyn a ddefnyddia Duw i wareiddio'r byd a diwygio cymdeithas. Y mae goreu pob gwlad wedi tyfu o dan gysgod y cymeriadau cryfaf a llawnaf; cymeriadau a llawer o'r Dwyfol ynddynt; cymeriadau ag sydd yn cadw haul gogoniant aml i wlad rhag machludo, a chysgod ei dylanwad rhag diflannu.

Rhed meddyliau pob oes yn naturiol i gyfeiriad yr arwr, ac ni raid i ni synnu at hynny, oherwydd yr arwr sydd yn cadw gogoniant gwlad ac anrhydedd cenedl i fyny. Yr arwr sydd yn arwain gwledydd o gaethiwed i ryddid—yn torri cadwyni celyd caethiwed ac yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Llifa dylanwad bywyd yr arwr i diriogaethau yr oesau a ddilyn, ac i fywyd cenhedloedd eraill. Rhydd dân yn enaid ei ddilynwyr i ymladd dros yr egwyddorion oedd yn argyhoeddiad iddo ef; trosglwydda asbri o'r newydd, a rhydd fflam na ddiffoddir mohoni hyd nes y daw y breuddwydion yn ffaith ym mywyd yr oesau.

"Lives of great men all remind us,
We can make our lives sublime,"


meddai Longfellow.

Goreuon gwlad sydd yn gwresogi ei gwladgarwch; grymuso ei gwleidyddiaeth; dyrchafu ei moes; effeithioli ei chrefydd, ac yn eangu dylanwad ei haddysg. Y mae gan bob gwlad ei charedigion; y mae gan bob cenedl rai yn caru eu gwlad yn fwy na hwy eu hunain-rhai yn aberthu eu bywyd drosti mewn gwasanaeth. Nid yw hunanoldeb yn ennill gorsedd yng nghalon cenedl, y mae hunanaberth. Dyn mawr yn unig a all roi ei fywyd dros ei wlad, a'r arwr yn unig a all greu llinell a chylch iddo'i hun. Un o'r cyfryw oedd Tom Ellis; yr oedd ef yn fwy na Chymru, a rhoddodd fri arni. Ni ddyrchafwyd ac ni anrhydeddwyd Tom Ellis yn y Senedd oherwydd ei fod yn dod o Gymru, ond dyrchafwyd ac anrhydeddwyd Cymru yn y Senedd drwy Tom Ellis.

Magwyd ef ar aelwyd wedi ei heneinio ag adnodau ac emynau Cymreig; aelwyd wedi ei chrefyddoli yn swn yr

Ysgol Sul a son am Ddiwygiadau. Cartref y Diwygiadau oedd ei fro enedigol, ac

yn ei ymddanghosiad ef anrhydeddwyd y fro â diwygiwr cymdeithasol a glodforir tra y bydd bryniau Cymru ar eu sylfaeni. Y mae llu o gymwynaswyr wedi eu magu rhwng bryniau dinod Cymru— plant "Coleg Anian."

Plannwyd cân yn enaid Tom Ellis yn fore ar ei oes, a mynnodd yntau ei throsglwyddo i werinwyr Cymru yn ei ymdaith wrol i gyfeiriad rhyddid crefyddol, cyfiawnder gwleidyddol, a chydraddoldeb cymdeithasol. Rhoddodd gân newydd yng ngenau plant ei wlad; deffrodd ei genedl i sylweddoli fod agen ei dyrchafu, ac nad oedd raid iddi ymostwng mewn anobaith. Sylweddolodd Tom Ellis angen Cymru drwy leferydd proffwydi fel Morgan Llwyd, Elis Wyn, Ieuan Gwynedd, &c. Clywodd adsain o swn stormydd gormesol y gorffennol, datblygodd y wreichionen wladgarol oedd yn ei fynwes i fod yn fflam, a rhoddodd fynegiad croew o'i argyhoeddiad.

Syml oedd ei gartref—digon syml i fagu arwr. O leoedd syml y mae Duw yn codi cymwynaswyr i wledydd. Yr oedd ef yn «arwr gwirionedd a chadfridog rhyddid. Yr oedd gormes a thrais y bendefigaeth yng Nghymru wedi gwasgu ein cenedl mor isel fel mai lleddf a chwynfanus oedd cerddi ei gwerin, ond bu Tom Ellis yn gyfrwng i drawsgyweirio eu cân o'r lleddf i'r llon.

Mab ydoedd i Thomas Ellis, Cynlas, ac Elizabeth, merch John Williams, Llwyn Mawr, Bala. Ganwyd ein gwrthrych ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror, 1859, pan oedd y sir ynghanol terfysg gwleidyddol mawr, pan oedd y Rhyddfrydwr pybyr Mr. David Williams, Castell Deudraeth, yn ceisio diorseddu Ceidwadaeth oddiar sedd Meirion. Prin fod yr un Rhyddfrydwr ym Meirion wedi breuddwydio y dydd hwn fod un a gychwynai gyfnod newydd yn hanes Rhyddfrydiaeth y sir wedi ei eni yno.

Tua'r adeg y ganwyd ein gwrthrych bu raid i lu o Ryddfrydwyr Meirion a ymlynai wrth eu hegwyddorion fyned drwy beiriau poethion, ac yn eu plith rai o'i hynafiaid yntau. Rhoed dewis iddynt o ddau beth,—'gwerthu' eu hegwyddorion a mwynhau rhyddid, ynte ymlynu wrth eu hegwyddorion a bod yn wrthrychau trais a gormes. Dewisodd y dewrion hyn yr olaf, a son am yr erledigaethau hyn oedd un o'r pethau cyntaf a ddisgynnodd ar glust ein harwr. Deffrowyd rhywbeth o'r tu mewn iddo yr adeg hon na olchwyd mohono i ffwrdd gan stormydd amser.

Tyfodd i fyny yn naturiol, gyda cheinder, gwylltedd, swyn, a rhamantedd natur o'i gwmpas ymhobman. Yr oedd y cyff y tarddodd ohono yn sylfaen dda iddo, ynghyda mireinder Anian yn amgylchedd dymunol iddo dyfu i fyny. Cafodd ei galon ieuanc ac iraidd ei mwydo yn swn gweddiau taer a syml yr aelwyd, a chafodd yr Ysgol Sul a'r Cyfarfod

Gweddi yn ganllawiau i'w gychwyn ar

daith bywyd. Daeth yn seren yn yr Ysgol Sul ac nid oedd ei bertiach am ddweyd adnod yn y Seiat. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Frytanaidd Llan Dderfel, a thlws y disgrifir y cyfnod hwn gan Iolo Caernarfon :—

"I ysgol fach Llan Dderfel dros y bryn,
Yn gyson elai yn ei febyd pêr,—
Yn siriol yn y boreu fel y wawr,
Gan ddychwel adref yn yr hwyr yn llawn
O hyder tawel, fel prynhawn o Fai."

Yr oedd yr ysgol fechan hon ddwy filltir o bellter o'i gartref, a cherddai iddi yn ol ac ymlaen bob dydd. Dywedir na chollodd ddiwrnod erioed o'i ysgol. Danghosodd yr adeg hon ewyllys gref a phenderfyniad di-ildio, a pharhaodd y nodwedd ynddo ar hyd ei fywyd.

Aeth o'r ysgol hon i'r Bala, ac oddi-yno i Aberystwyth, a bu ei arhosiad yn y naill fan a'r llall yn llwyddiant perffaith. Yfodd o'r ysbryd oedd yn y naill a'r llall. Dyfnhawyd ei argyhoeddiadau ynddynt, a grymuswyd ei benderfyniad. Yr oedd ei gamre yn yr Ysgolion a'r Colegau yn brawf amlwg fod y Nefoedd wedi bwriadu iddo fod yn arweinydd a thywysog i'w genedl. O Aberystwyth aeth i New College, Rhydychen, lle y cafodd radd B.A. gydag anrhydedd mewn clasuron a hanes. Tra yn Rhydychen bu yn Llywydd yr Union, ac yn Ysgrifennydd y Palmerston Club.

Cwblhaodd ei gwrs addysg tua diwedd 1884, a'r cam nesaf yn ei hanes ydyw myned yn athraw preifat i Pentwyn, Castleton, ger Caerdydd, at deulu Mr. Cory. Tra yr arhosai yn y lle hwn amlwg oedd ei fod a'i fryd ar binacl, a gwasanaethu ei wlad oedd hynny. Symudodd oddiwrth y teulu uchod i fod yn ysgrifennydd i Syr J. T. Brunner, ac enillodd brofiad newydd yn y cyfeiriad hwn.

Yn 1886 dewiswyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd, ond cawn fanylu ar y frwydr a'r fuddugoliaeth yn y bennod arno fel " Gwladgarwr a Gwleidydd " ymhellach ymlaen.

Dydd pwysig yn ei hanes fu y 1af o Fehefin, 1898, sef, dydd ei briodas â Miss A. J. Davies, merch y diweddar R. J. Davies, Ysw., Cwrt Mawr, a chwaer J. H. Davies, Ysw., M.A., Aberystwyth. Cafodd ymgeledd gymwys, gan i'w briod fod yn dyner a gofalus o honno, ac yr oedd yn gu yn ei golwg. Ymhen ychydig fisoedd ar ol iddynt briodi tarawyd ef yn wael.

Blwyddyn ddu yn hanes Cymru ydyw 1899, gan mai dyma'r flwyddyn y bu farw ein gwrthrych. Yr oedd wedi gweithio yn rhy galed dros ei wlad—aeth yr ysbryd yn drech na'r corff, a dadfeiliodd y babell. Aeth ef a'i briod drosodd i Ffrainc gan fwriadu myned am daith i lannau Môr y Canoldir. Sylwodd ei ffryndiau ei fod yn llesgau, ac un diwrnod—diwmod mawr i Gymru—daeth y newydd prudd am ei farw, a pharodd alar cyffredinol.

Torrwyd ef i lawr ynghanol ei waith, ac fe archollwyd y genedl yr un dydd. Cwympodd ein gwrthrych fel milwr a'i gledd yn ei law. Os y bu farw'n ieuanc ni bu farw heb wneud gwaith. Os mai byr oedd ei ddydd yr oedd yn oleu ar ei hyd. Gellir cyfrif ei ddyddiau ond ni ellir mesur ei waith. Bu farw i fyw a noswyliodd i ddeffro. Ymyl ddu oedd i bopeth yng Nghymru ddydd ei farw a dagrau a lanwai bob llygaid. Yr oedd ei thywysog wedi cwympo ! Os yw ef yn farw y mae ei ysbryd yn fyw ; os nad yw ei gorff yn Senedd Prydain Fawr heddyw, y mae ei DDYLANWAD YN ALLU BYW YNO. Galarodd RHYDDID ddydd ei farw, ond llawenychodd GORMES; griddfanodd CYFIAWNDER ond gorfoleddodd ANGHYFIAWNDER.