Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Ysgolor a Llenor

Oddi ar Wicidestun
Gwladgarwr a Gwleidydd Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd

gan O Llew Owain

Fel Cristion

PENNOD III
YSGOLOR A LLENOR

"Yr hyn ydyw caboli i ddarn o farmor, dyna ydyw addysg i'r enaid dynol."—
Addison.

Gwirionedd a gofleidiodd Tom Ellis pan yn ieuanc iawn oedd nad yw llwyddiant un amser yn dilyn segura, a chredodd fod diwylliant meddyliol yn angenrheidiol tuag at wareiddio a dyrchafu tôn foesol gwerin gwlad. Dysg hanes gwahanol genhedloedd y byd ni fod gan addysg ran amlwg yn eu gwareiddiad a'u datblygiad, ac mai addysg sydd wedi eu gwneud yr hyn ydynt heddyw. " Ni all pwy bynnag a gred mai da yw diwyllio ei feddwl ei hun, adael i eraill barhau mewn anwybodaeth," meddai Spurzheim, ac yr oedd hyn yn argyhoeddiad i Tom Ellis hefyd. Penderfynodd yfed mor helaeth ag y gallai o wahanol ffynonellau dysg ei hun, ac yr oedd am geisio estyn breintiau addysg mor agos ag oedd yn bosibl i werin Cymru. Gellir dweyd yn ddibetrus ei fod yn ffrynd cywir i addysg, ac er mor drylwyr yr oedd wedi ymgyflwyno gyda phethau eraill, nid oedd ar ol gyda'r cyfeiriad hwn. Gwelodd angen ei wlad, llosgai ei galon drosti, a chydag argyhoeddiad mor ddwfn, a gwladgarwch mor eang, camp iddo ef a fuasai peidio âg aberthu dros ei wlad gydag addysg. Ni fethwn wrth ddweyd ei fod wedi gwneud mwy nag odid un aelod Cymreig arall i estyn addysg uwchraddol i afael gwerin ymdrechgar a sychedig Cymru. Onid oes miloedd yng Nghymru heddyw yn barod i ymostwng o flaen ei gofgolofn o barch i'w ymdrechion dihafal gyda'r Ysgolion Canolraddol ? A fuasai ein cenedl heddyw yr hyn ydyw gerbron cenhedloedd eraill ym myd addysg onibai ei ymroddiad diflino ef ? Efe oedd y prif symudydd gyda'r Ysgolion hyn; bu'n esbonio eu hamcan i'r bobl, ac yn egluro eu manteision i dlodion ei wlad. Cafodd ran amlwg yng nghynllunio darpariaethau y Ddeddf, oherwydd iddo gymeryd rhan mor flaenllaw gyda'r cwestiwn tra yn cael ei drafod.

Yr oedd wedi astudio angen Cymru; yr oedd yn argyhoeddedig y buasai llanciau a lodesi Cymru yn fwy cyfartal â chenhedloedd eraill pe wedi cael yr un manteision a hwy; gwyddai fod llu afrifed o dalentau gloew wedi gorfod aros wrth yr aradr oherwydd diffyg manteision; gwyddai fod miloedd wedi eu clymu wrth y cun a'r ordd yn y chwarel oherwydd diffyg cyfle a phrinder arian i ymgyrraedd at addysg uwchraddol y Coleg, a gwyddai am y golled a gafodd Cymru oherwydd fod mintai o Gymry athrylithgar wedi gorfod ymlynu wrth y gaib yn y pwll glo, oherwydd diffyg darpariaethau addysg yng Nghymru. A oedd yn rhyfedd fod ei galon yn ysu gan awydd am gael gwell addysg i blant gwerin ei wlad ? Goleuodd ganwyll mewn tywyllwch megis; mynnodd fyned i ogofeydd anwybodaeth gyda hi ac argyhoeddodd rai o angen dyfnaf eu gwlad. Y mae Cymru yn oleuach heddyw fel canlyniad uniongyrchol ei ymdrechion ef a cherdda ym mhellach i'r goleuni y naill ddydd ar ol y llall, ar bwys y llinellau a osododd ef i lawr. Yr oedd yn gwybod am fanteision cenhedloedd eraill; gwyddai hefyd, yr un mor gywir, am anfanteision ei wlad ei hun. Nid chwilio am ddiffygion ei wlad er mwyn ei GWARTHRUDDO yr oedd ef, ond chwilio am danynt er mwyn ei GWELLA. Nid LLAWENHAU uwchben ei gwendidau yr oedd ef, ond GALARU. Yr oedd goleuni disglair addysg yn tywynnu ar genhedloedd eraill, ond yr oedd tywyllwch anwybodaeth yn gwgu uwchben Cymru.

"Nid llethu'r Cymro mewn llyffethair trymach
A wnai'r Ddeffroad nerthol, ond yn hytrach

Agoryd llwybrau gwyn i feib y bryniau
Ymheulo yn neuaddau'r addysg oreu.
Mae'r byd yn y Deffroad; rhaid i'r gwron
Sydd yn dirgelu'r Deiffro yn ei galon,
A fyn adnabod neges cyfrinachau
Sy'n siarad yn ei ysbryd, groesi'r ffiniau,
A thramwy mewn trigfannau anghynefin,
Cysegru'r ddaear newydd ag allorau
Yw llwybr diwygwyr byd i greu cyfnodau,"

meddai Dyfnallt yn ei bryddest odidog, a dyna wnaeth Tom Ellis—" agoryd llwybrau gwyn i feib y bryniau." Y mae Cymru yn llawnach heddyw o bregethwyr, athrawon, beirdd, gwyddonwyr, ac athronwyr, &c., ar ol i'r gwron o Gynlas agor ei lygaid i angen ei wlad, rhoi lleferydd i'w argyhoeddiad, a mynnu cael ei britho ag Ysgolion Canolraddol. Bu'n gyfrwng i wneud gemau o dlodion; i dynnu allan wroniaid o gilfachau a cheunentydd, a gwneud gwladgarwyr ac ysgolorion o werinwyr tlodion Cymru. Y mae cynnyrch Ysgolion Canolraddol Cymru yn binaclau anrhydeddus yma ac acw ar hyd a lled y byd!

Gwaith anodd ydyw cychwyn cyfnod newydd yn hanes gwlad, a gwaith anodd ydyw symud gwerin anllythrennog. Nid dall i wirioneddau fel hyn oedd Tom Ellis pan yn ymdrechu dros ei wlad, ond yn cael ei yrru yr oedd gan angerdd ei gariad tuag ati. Penderfynodd a gorchfygodd ! Brwydrodd a chafodd fuddugoliaeth!

"A oes un ag y mae anhawsterau yn ei wangaloni—un a wyra i'r storm ? Ychydig a wna hwnnw. A oes un a orchfyga? Dyna ddyn na fetha byth," meddai Hunter. Gwr o'r nodwedd yna ydoedd ein gwrthrych—un i ORCHFYGU.

Yr oedd ei dueddfryd lenyddol yn adnabyddus drwy Gymru—daeth i'r golwg yn fore ynddo. Darllennai glasuron coethaf y Gymraeg pan yn ieuanc, ac fel yr addfedai o ran ei farn a'i chwaeth, eangai cylch ei ddarlleniad. Yr oedd yn llenor cyn bod yn ysgolor, ond daeth yn well llenor drwy ei ysgolheigdod; yr oedd y dueddfryd ynddo cyn myned i'r Coleg, ond yn y Coleg yr ymddatblygodd. Trodd ei anfanteision ei hun yn fanteision i eraill yn y cyfeiriad yma; bu'n gofidio ei hun na fuasai clasuron yr iaith yn nes i ddwylo gwerin ei wlad, a gwnaeth ei oreu i geisio llenwi'r gagendor. Tra yn mwynhau Elis Wyn, Theophilus Evans, Morgan Llwyd, &c., nid anghofiodd fod gan Gymru hefyd ei Phant y Celyn ac Ann Griffiths, ac ni anghofiodd ychwaith fod Beibl yn ei iaith ac ar ei aelwyd. Sugnodd nerth i'w enaid o'r uchod, a buont yn gyfryngau i lefeinio ei ysbryd drwyddo, ac i roddi lliw a ffurf ar ei fywyd.

Nid oes eisiau tystiolaeth gryfach am dano fel ffrynd Addysg na'r un a ganlyn o eiddo Arglwydd Eenyon, yng nghyfarfod hanner blynyddol Llys Llywiawdwyr Coleg Prif Ysgol Gogledd Cymru, a gynhaliwyd yn Rhyl, Ebrill, 1899. Llefarodd Arglwydd Eenyon y geiriau a ganlyn mewn dwyster:—

Yr oedd Mr. Ellis wedi bod yn un nodedig. Cododd o ganol bryniau sir Feirionnydd, ac ni chafodd fanteision addysg arbennig iawn. Cymry oedd ei deulu. Trwy ei ewyllys gref, a'i ddeall anghyffredin, gweithiodd ei hunan ym mlaen i un o'r lleoedd blaenaf yn y wlad. Yr oedd wedi cael ei benodi yn Brif Chwip Ryddfrydol yn y Senedd. Yr oedd yn dda ganddo ddweyd ei fod yn cael ei barchu gan y Ceidwadwyr oherwydd purdeb ei amcanion a'i degwch mawr.......Yr oedd Mr. Ellis am i bawb gael cyfranogi o'r addysg oreu bosibl. Yr oedd yn gyfaill gwirioneddol i addysg, ac yn neilltuol Coleg Gogledd Cymru."

Y mae ei wasanaeth i lenyddiaeth ei wlad yn llawer eangach nag y tyb llawer un. Pan yn Aberystwyth bu yn olygydd y cylchgrawn cyntaf a fu ganddynt. Enw y cylchgrawn hwn oedd The Gap, ac ysgrifennodd lawer iddo ei hun. Bron na ellir dweyd ei fod wedi ysgrifennu yr oll iddo. Cyfoethogodd golofnau newyddiaduron Cymru â'i ysgrifell, a chafodd gyfle da i ddatblygu ei dalent pan yn lled ieuanc. Gwleidyddiaeth oedd yn myned a'i fryd yr adeg hon, a phan yng Nghaerdydd ysgrifennodd lawer iawn i newyddiaduron. Tua diwedd y flwyddyn 1884 ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Goleuad, a. swm a sylwedd yr ysgrifau hyn oedd beirniadu yn llym yr Aelodau Seneddol Cymreig. Ymddengys nad oedd eu calonnau yn ddigon gwresog gyda phynciau a berthynai i Gymru ganddo ef.

Ar ol hyn, ysgrifennodd o dro i dro i'r South Wales Daily News ac i'r Carnarvon and Deribigh Herald, ac yr oedd min deifiol ar yr ysgrifau hyn. Tua'r adeg hon buwyd yn meddwl am gychwyn newyddiadur Seisnig yn sir Feirionnydd, a meddyliodd yntau am ymgymeryd â'i olygiaeth. Yn anffortunus syrthiodd y cynllun i'r llawr, ac nid bychan a fu ei siomedigaeth yntau.

Tra yn aros gyda Syr J. Brunner, ysgrifennodd lawer i'r South Wales Daily News, yn disgrifio'r Senedd. Manteisiodd newyddiaduron eraill arno hefyd yn y cyfeiriad hwn. Yn y flwyddyn 1886, bu'n ysgrifennu o blaid Ymreolaeth, ac wrth gwrs yr oedd yn erbyn Chamberlain ac o blaid Gladstone. Hefyd, bu'n ymgodymu â rhai o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd a chadwodd ei dir yn dda.

Er cymaint a gyfoethogodd ar newyddiaduron Cymru, &c., dichon mai ei orchestwaith llenyddol oedd golygu cyfrol o weithiau Morgan Llwyd, ac ni ellir prisio ei wasanaeth i'r genedl yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn edmygwr dihafal o Forgan Llwyd, ac y mae cyd-darawiad rhyfedd wedi digwydd yn hanes y ddau. Bu'r ddau farw yn ddeugain oed!

Syniad arall a gafodd fodolaeth yn ei feddwl ef oedd cael Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd hwn yn fater mor agos at ei galon fel y dywedodd ei fod yn barod i roddi £100 at y symudiad os deuai rhai eraill ym mlaen yr un fath. Bu'n hyrwyddwr i addysg Cymru ac yn noddwr i'w llenyddiaeth.