Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Bleddyn ab Cynfyn
← Anwyl, Parch. Edward | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Cadwgan → |
BLEDDYN AB CYNFYN, o'r Nannau, a gafodd Dywysogaeth Gwynedd ar farwolaeth ei haner brawd, Gruffydd ab Llewelyn, tua'r flwyddyn 1066; a Rhiwallawn ei frawd yr un pryd a gafodd Dywysogaeth Powys. Ond ar gwymp yr olaf mewn brwydr daeth Powys hefyd i feddiant Bleddyn :
"Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun biodd hen Bowys."
Yr oedd yn feddianol ar lawer o rinweddau; yn dilyn cyfiawnder, ac uniondeb; ac yn hael a chymwynasgar. Cynhaliai gyfreith- iau y wlad, ac adgyweiriai ddefodau y beirdd. "O. C. 1073 y daeth Rhys ab Owain ab Edwin, o Fanaw; a chan gael ei gynorthwyo gan liaws o bendefigion Ystrad Tywi a Brycheiniog, efe a barodd lofruddiad y Tywysog Bleddyn ab Cynfyn, trwy gweryl cyfrinachol yn Nghastell Powys." (Brut.; Geir. Byw., Lerpwl.) Yr ydym yn cael mai prif aneddle Bleddyn ab Cynfyn, yn gystal a'i fab Cadwgan, a'i fab, a'i ŵyr, a'i orwyr yn olynol, oedd Nannau, ger Dolgellau; ac y mae lliaws o deuluoedd ein gwlad yn dilyn eu hachau iddo, megis y Fychaniaid Corsygedol, Fychaniaid o'r Nannau, a'r Hengwrt, Rug yn bresenol, a'r Llwydiaid Cwmbychan, Ardudwy, &c., hefyd Fychaniaid Caergai, &c.