Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Cynfrig Hir
Gwedd
← Clynog, Mourice | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Cynwyd, Sion → |
CYNFRIG HIR, brodor ydoedd o Edeyrnion. Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, wedi bod o hono yn dihoeni yn ngharchar Caerlleon Gawr am ysbaid deuddeng mlynedd fel carcharor rhyfel iar y ddinas hono, a ryddhawyd trwy ddewrder gwladgarol Cynfrig Hir. Cynfrig tan yr esgus o brynu angenrheidiau bywyd, a aeth i Gaerlleon, a chan wylio ei gyfleusdra, a gafodd fynediad rhwydd i'r castell, ac i garchar—gell ei dywysog, yr hwn a ddygodd efe yn gadwynog ar ei gefn i ddiogelfa, tra yr oedd gwŷr arfog y gaer, o'r gwyliwr i'r dystawr, yn ymloddesta uwch y gwin a'r gyfeddach. Anfynych y ceir y pleser o gofnodi engraifft mor ragorol o wrhydri êon a gwladgarol.—(Geir. Byw. Lerpwl.)