Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Davies, Morris, (Meurig Ebrill)

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Ionawr, (David Richards) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Davies, Thomas

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morris Davies (Meurig Ebrill)
ar Wicipedia

DAVIES, MORRIS, (Meurig Ebrill), Dolgellau. Nid oes genym wybodaeth pwy oedd rhieni, na pha le y ganed Meurig Ebrill, ragor nag iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1780; a bu farw Awst 26, 1861; felly gwelwn iddo fyw ar y ddaear 81 o flynyddoedd. Ymwelodd yr Arglwydd â'i feddwl mewn modd neillduol yn y Brithdir, pan yn gwrando y diweddar Barch. W. Hughes, o'r Dinas; ymhen ychydig fisoedd derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r eglwys hono, gan y diweddar Barch. Hugh Pugh. Yr oedd Mr. Davies ymhlith yr ychydig a sylfaenasant yr eglwys Annibynol yn Dolgellau, tua 52 o flynyddau yn ol, a bu yn golofn gadarn dan yr achos pan yn ei wendid. Modd bynag cafodd fyw i weled yr hedyn a daflwyd ganddynt i'r maes, wedi dyfod yn bren mawr, "a'i ffrwyth yn ysgwyd fel Libanus," yr hyn a fu yn adloniant i'w feddwl ar lawer adeg isel a digalon. Yr oedd yn Annibynwr trwyadl, a phrofodd hyny yn ei ysgrifeniadau galluog, a'i farddoniaeth ar faesydd y Misolion Cymreig. Bu yn aelod gyda'r Annibynwyr, rhwng y Brithdir a Dolgellau, am 53 o flynyddoedd. Cafodd gystudd maith, a bu yn orweddiog am lawer o flynyddoedd; ond parhaodd yr awen yn fywiog trwy yr holl amser, a daliodd i awenu bron hyd y diwedd. Yr oedd yr hen fardd yn Gristion egwyddorol, ac yn llenor uchel; ond feallai fod ei ysgrifell ar y llymaf pan yn dadleu ar bethau amgylchiadol yr eglwys Gristionogol. Cafodd fyw i weled dyddiau lawer, ac am fwy na haner can' mlynedd bu yn filwr dewr dan faner Calfari. Ymadawodd â'r fuchedd hon gan ymorfoleddu yn yr hwn yr oedd wedi ymddiried ei enaid iddo. Cyhoeddodd ei weithiau Barddonol yn ddau lyfr, a'r trydydd yn cynwys hanes ei deithiau yn ceisio gwerthu y cyfryw. Enw ei lyfr ydyw Dulliau Meirion.[1]—(Geir. Byw., Aberdar.)

Nodiadau

[golygu]