Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Davies, Parch. Edward, Smyrna
Gwedd
← Davies, Parch. David | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Davies, John, D.D → |
DAVIES, EDWARD, gweinidog yr Annibynwyr, yn Smyrna, ger Croesoswallt, ydoedd frodor o ardal Dinas Mawddwy. Ganwyd ef mewn lle a elwir Galltafolog. Cafodd alwad gan yr eglwys oedd yn Cutiau, ger Abermaw. Aeth yno yn mis Mai, 1818, a chafodd ei urddo yr haf hwnw i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle. Efe a fu yn llafurus a llwyddianus am y pedair blynedd y bu yn llafurio yn y gymydogaeth hono. Ymadawodd oddiyno i Smyrna, yn y flwyddyn 1822, a'i goron yn ddisglaer ar ei ben. lle terfynodd ei yrfa yn orfoleddus.