Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Davies, Parch. Griffith Owen
Gwedd
← Charles, Parch. Thomas, G. C. | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Parch. Enoch → |
DAVIES, Parch. GRIFFITH OWEN, a anwyd ger y Bala, yn Ionawr 24, 1790. Yn 1805 ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd. Trwy ddylanwad y diweddar Barch. T. Charles efe a dderbyniwyd i goleg Cheshunt yn 1811, lle y treuliodd bedair blynedd. Efe a urddwyd yn nghapel Arglwyddes Huntington, yn Spa Fields, Llundain. Yn 1815 efe a ymsefydlodd yn Maidenhead, lle y bu yn ddefnyddiol a phoblogaidd dros 21 o flynyddau Bu farw yn nechren y flwyddyn 1887, yn 47 oed.—(Evan Reg. 1837; Brython, cyf ii., t.d. 182.)