Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Edwards, Robert, (Robyn Ddu o Feirion)

Oddi ar Wicidestun
Dai Llwyd Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Edwards, Lewis, (Llewelyn Twrog)

EDWARDS, ROBERT, (alias Robyn Ddu o Feirion) ydoedd fardd a llenor, a hynafiaethydd gwych o Drawsfynydd. Y mae o'i waith yn Nghorff y Gainc "Gywydd Marwnad i Rolant Huw o'r Graienyn," ger y Bala, ac "Englyn Cyffes y Bardd." Y mae yn yr un llyfr englynion er cof am dano gan Gwilym Peris. Yr oedd yn fab neu wyr i Edward Roberts, alias "Hen Ficer Crawgallt." Yr hyn a ganlyn sydd uwch ei fedd:—" Yma y gorwedd gorff Robert Edward, bardd celfydd, olrheiniwr dyfal, a chyfaill dianwadal, gynt o Bentref Trawsfynydd. Diweddodd ei daith helbulus Y mae ar у beddfaen Chwefror у 18fed dydd, 1805, yn 30 oed." hefyd ddeg o englynion o waith Griffith Williams (Gutyn Peris), ac eraill. Buasem yn eu rhoddi i lawr yma pe buasai gofod yn caniatau. Hefyd, y mae mewn hen lyfr yn ein meddiant bum' englyn coffadwriaethol eraill o waith Gutyn Peris, er cof am Robyn Ddu o Feirion, &c. A gallwn dybied wrth dystiolaeth y beirdd fod Robyn Ddu o Feirion yn seren ddisglaer iawn.


Nodiadau[golygu]