Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ellis, Parch. John, Llanarmon-yn-Ial

Oddi ar Wicidestun
Ellis, Parch. David Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Evans, Parch. John; A.C.

ELLIS, Parch. JOHN, Llanarmon-yn-Ial, Sir Ddinbych, a fu farw Ebrill 2, 1862, yn 26 mlwydd oed. Tua blwyddyn a haner cyn ei farwolaeth yr aethai i'r weinidogaeth; felly nis gellir fod rhyw lawer i grybwyll am dano. Efe ydoedd fab hynaf y Parch. Robert Ellis, Brithdir, ger Dolgellau. Ymroddodd yn fore i'r Arglwydd, ac i'w bobl trwy ewyllys Duw. Cafodd ddysgeidiaeth dda pan yn ieuanc; eithr cyflwr gwanaidd ei iechyd a rwystrodd ei fynediad trwy y cylch arferol yn y colegau. Yr oedd yn weinidog ieuanc gobeithiol ac addawol iawn, ac mewn parch uchel gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwys oedd dan ei ofal. Tua thri mis cyn ei farwolaeth yr oedd wedi derbyn galwad oddiwrth eglwysi undebol Tanygrisiau a Rhiwbryfdir, Ffestiniog, gan fwriadu dechreu ei lafur gweinidogaethol yno yn nechreu Ebrill canlynol; ond ei Feistr nefol a fwriadasai fel arall. Claddwyd ef yn Rhydymaen, ger Dolgellau.

Nodiadau

[golygu]