Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ellis, Parch. Thomas
Gwedd
← Ellis, David | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Edwards, Parch. Robert → |
ELLIS, Parch. THOMAS, ydoedd drydydd mab i'r Dr. John Ellis, archddiacon Meirionydd, a pherson Llandwrog, o deulu y Glasfryn. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Nghaergrawnt, lle cyrhaeddodd glod uchel; a chynygiwyd iddo le fel gwyddonydd i negeseuwriaeth Iarll Musgrave i China; yr hyn a wrthododd. Cafodd bersonoliaeth Llanfachreth, a thrysoriaeth Eglwys Gadeiriol Bangor. Bu farw Chwefror 15, 1833.—(Lleyn MSS. )