Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. Robert, Talybont
Gwedd
← Evans, Parch. John, o'r Bala | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Parch. Robert, Llanidloes → |
EVANS, Parch. ROBERT, Talybont, ger y Bala, ydoedd fab i'r hen bregethwr hybarch Evan Ffoulkes, Llanuwchlyn, a brawd i'r Parch. Ffoulke Evans Machynlleth. Efe a ddechreuodd yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd, pan yn cyfaneddu yn agos i'r Roe, sir Ddinbych. Bu yn pregethu am yn agos i ddeu gain mlynedd. Yr oedd efe yn dduweinydd manylaidd, yn ymresymwr cadarn, ac yn ymadroddwr parod; a chlywsom ef ar amserau yn cael odfaon nodedig o wlithog ac effeithiol. Wedi nychdod lled faith efe a fu farw Mai 22, 1854, yn 65 oed.