Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Thomas, Adwy y Clawdd

Oddi ar Wicidestun
Evans, Edward, (Iolo Gwyddelwern) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Fychan, Gruffydd, Arglwydd Glyndyfrdwy

EVANS, THOMAS, Adwy y Clawdd, ydoedd fab i Evan a Jane Evans, Ty'n-y-cefn, ger Corwen, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. Cafodd feithriniaeth werthfawr mewn gwybodaeth ysgrythyrol, trwy yr Ysgol Sabbothol, o'i febyd; a phan ydoedd yn dra ieuanc, dechreuai y gwirioneddau dwyfol a ddarllenai ac a wrandawai, adael argraff led ddwys ar ei feddwl; a phan ydoedd oddeutu deunaw oed, efe a ymunodd â'r eglwys berthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghorwen. Wedi hyny efe a symudodd i fyw i'r Carneddau, ger Croesoswallt. Wrth weled ardaloedd y Goror yn soddedig mewn dwfn anwybodaeth ac anystyriaeth paganaidd, efe a deimlai awydd cryfi wneuthur rhyw ymdrech i'w dihuno, a hyny a arweiniodd i beri iddo ddechreu pregethu. Wedi bod yn cyfaneddu yn y Carneddau am oddeutu deunaw mlynedd, efe a symudodd i Adwy y Clawdd, lle y treuliodd y gweddill o'i oes mewn ymdrechiadau diflino i wneyd daioni i'w gyd-ddynion; a gellid gweled yn nwysder ei holl bregethau fod achub pechaduriaid yn beth pwysig a difrifol ar ei feddwl. Bu farw mewn tangnefedd, ar yr ail o Fawrth, yn y flwyddyn 1857, pan yn 48 mlwydd oed, wedi bod yn aelod eglwysig am 31 o flynyddau, ac yn pregethu am 22 o flynyddau.—(Geir. Byw., Aberdar.)


Nodiadau

[golygu]