Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hughes, Humphrey

Oddi ar Wicidestun
Griffith, Parch. Thomas Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Hughes, Thomas

HUGHES, HUMPHREY, Ysw., ydoedd fab hynaf Rhisiart Hughes, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, a degfed arglwydd Cymer, ac a anwyd Awst 14, 1605. Gwnaed ef yn uchel sirydd Meirionydd yn 1670. Yr oedd yn ymroddgar a selog dros deulu breninol y Stewarts; oblegyd hyn y fforffetiwyd ei etifeddiaeth; ond etifeddianodd hwynt drachefn trwy dalu i Oliver Cromwel a'i gyngor y swm bychan o 333p. 10s. 9c. Priododd ferch ac etifeddes John Roper, o Bryntargor, yn Mryneglwys-yn-Ial. Bu farw Mai, 1682. —(G. Lleyn.)


Nodiadau

[golygu]