Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Humphreys, Parch. Ellis, Llanengan
← Hughes, Catherine | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Hywel Sele → |
HUMPHREYS, Parch. ELLIS, Llanengan, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn Dolgellau, yn y flwyddyn 1806. Arferai wrando ar y Methodistiaid Calfinaidd er yn blentyn. Pan yn 13eg oed, aeth yn fugail defaid i amaethwr yn y gymydogaeth, ac ymhen rhyw ysbaid o flynyddoedd aeth yn wehydd; a chyda'r gorchwyl hwn aeth oddi cartref—i Swydd Gaernarfon, y mae yn debyg. Ymhen rhyw gymaint o amser daeth mater ei enaid i bwyso ar ei feddwl; a hysbysodd hyny i hen frawd crefyddol, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr; a rhoddodd y brawd hwnw gynghorion priodol iddo, a chymhellodd ef i ddyfod gydag ef i eglwys yr Annibynwyr, i hyn yr ufuddhaodd. Yn 1829, daeth i Lanengan, lle y priododd yn 1830. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi hyny dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr, a bu yn ddefnyddiol a llafurus tra yn eu plith. Yn 1835, ymadawodd â'r Annibynwyr am ryw resymau ag oedd yn ei foddloni ef; ac ymunodd a'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymhen tua thair blynedd dechreuodd bregethu drachefn, a bu yn ddiwyd gyda'r gwaith tra y gallodd. Fel pregethwr ymdrechai fwy am gyraedd cydwybodau ei wrandawyr nag am eu difyru. Teithiodd trwy Dde a Gogledd. Gafaelodd y darfodedigaeth ynddo tua'r flwyddyn 1846, ac yn 1847, bu farw yn 41 bed.—(Geir. Byw., Aberdar.)