Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Cadwaladr

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. Richard Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. Thomas, y 3ydd

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd
ar Wicipedia

JONES, Parch. CADWALADR, gweinidog yr Annibynwyr, yn Nolgellau, cantref Meirionydd. Ganwyd ef yn Deildref-isaf Llanuwchlyn, ger y Bala, yn nghantref Penllyn, Mai 1783. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y lle gan y Dr. G. Lewis. Anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Anfonwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai, 1811, urddwyd ef yn Nolgellau. Yn 1858, o herwydd cynydd oedran, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn gwbl, a phregethai yma a thraw, fel y byddai galwad ymysg ei hen ddiadellau, hyd angau, lle yr edrychid arno gydag anrhydedd patriarchaidd. Bu yn olygydd i'r Dysgedydd am 30 mlynedd, yr hon a gychwynwyd yn 1821. Bu yn y weinidogaeth am 60 mlynedd, ac ni fethodd un cyhoeddiad o herwydd afiechyd. Yr oedd ei bregethau yn ysgrythyrol, ymarferol, ac eglur. Yr oedd yn dduwinydd galluog, ac yn eiddigeddus dros iachusrwydd ffydd. Yr oedd yn Anghydffurfiwr trwyadl, a gweithredai bob amser fel y cyfryw. Bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, a chladdwyd ef yn mynwent y Brithdir.(Geir. Byw. Aberdar.)

Nodiadau

[golygu]