Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. David, Treffynnon

Oddi ar Wicidestun
Howell, Parch. L. D Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Edward, "Bardd y Brenin,"

JONES, Parch. DAVID, gweinidog poblogaidd gyda'r Annibynwyr yn Nhreffynon, Sir Fflint. Ganwyd ef yn Nghoed-y-ddol, plwyf Llanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn. Yn 1790 ymunodd â'r eglwys Annibynol yn y Bala. Bu mewn tywydd garw gyda mater ei enaid am tua phedair blynedd A phan ddaeth i afael cilfach a glan iddi, cyfododd awydd cryf ynddo i berswadio ac i arwain eraill i'r un fan. Daeth hyn yn hysbys i'r eglwys a'r Dr. Lewis, Llanuwchlyn, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Yn y Bala, ar y 9fed o Chwefror, 1796, y pregethodd y waith gyntaf. Yn 1797 aeth i athrofa Gwrecsam, yr hon oedd dan olygiaeth y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai 1801 derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Annibynol Treffynon, Sir Fflint. Gwasanaethodd ei genhedlaeth yn hynod o ffyddlawn gyda phob peth yr ymaflodd ynddo. Bu yn foddion i godi amryw gapelau, sef Bagillt, 1903; Rhesycae, 1804; Heol Mostyn, 1826; a Phen—ypyllau, 1829. Bu yn ysgrifenydd i'r Gymdeithas Fiblaidd yn Sir Fflint am 18 mlynedd, i gangen Gwynedd o Gymdeithas Genhadol Caerludd am 9 mlynedd, ac i Undeb Cynulleidfaol Siroedd Fflint a Dinbych am 9 mlynedd. Yr oedd ei alluoedd corfforol a meddyliol bob amser ar eu llawn waith, a hwnw yn waith a rhyw amcan daionus yn perthyn iddo. Yr oedd ei bregethau yn syml, eglur, a llawn o efengyl, ac yn cael eu traddodi gyda theimladau gwresog ac ysbryd cynes iawn. Cyhoeddodd gasgliad o Hymnau at wasanaeth y cysegr ymhlith yr Annibynwyr, a chafodd dderbyniad helaeth. Nid ydym yn gwybod a gyhoeddodd ddim arall, er na fu neb yn fwy diwyd nag ef yn ysgrifenu ar wahanol achosion crefyddol. Bu farw Awst 25, 1831, trwy syrthio trwy lawrddrws (trap-door) yn Liverpool, a chladdwyd ef yn barchus yn Nhreffynon. (Hanes Ymneilldaaeth, gan Morgans, 578.)


Nodiadau

[golygu]