Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Lewis, Y Bala

Oddi ar Wicidestun
Jones, Parch. John, (Ioan Tegid) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Lewis, Llanuwchllyn

JONES, Parch. LEWIS, gweinidog gyda'r Methodistiad Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef yn Melin Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-Penant, yn Nghantref Meirionydd, yn 1807. Cafodd ychydig ysgol gyda Lewis Williams, Llanfachreth. Daeth i'r Bala fel llyfr—rwymydd, ac yno y dechreuodd bregethu; a bu am ysbaid wedi hyny yn ysgol Gwrecsam, dan addysg Mr. John Hughes (wedi hyny o Liverpool). Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1838. Yr oedd yn ŵr o feddwl craff ac yn ysgrifenydd medrus. Er nad oedd yn hòni ei hun yn fardd, cyfansoddodd rai caniadau gwerth eu cadw. Cyhoeddwyd rhai o'i bregethau yn llyfrynau bychain, ac yn rhai o gyfrolau y Pregethwr. Ysgrifenodd amryw erthyglau rhagorol i'r Traethodydd, megis yr "Adolygiad ar Athroniaeth Trefn Ischawdwriaeth;" a chyfoethogwyd dalenau y Geiniogwerth a'r Methodist â chynyrchion ei ddoniau destlus, ac efe oedd prif, os nad unig olygydd y cyhoeddiad blaenaf. Efe oedd awdwr "Cofiant y Parch. Richard Jones o'r Bala," a chyfieithydd "Oriau olaf Iesu Grist," a gadawodd lawer o bregethau, &c., ar ol mewn llawysgrifen. Bu farw yn 1854.—(Geir. Byw. Lerpwl; Geir. Byw. Aberdar, a'r Gwyddionadur.)


Nodiadau

[golygu]