Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Morris, Aberllefeny
← Jones, Parch. Evan, (Ieuan Gwynedd) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. Owen, Towyn → |
JONES, Parch. MORRIS, Aberllefeny, yn nghantref Meirionydd, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Mhenmorfa, swydd Gaernarfon, Ionawr 13, 1806. Yn Awst 1836 dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn bregethwr hynod o effeithiol; iddo fod, yn ei amser byr, yn offerynol i droi lliaws o gyfeiliorni eu ffyrdd. Yr oedd wedi dysgu darllen, ysgrifenu, a gramadegu, &c., heb ddiwrnod o ysgol, oddieithr y Sabbothol. Yr oedd yn enwog hefyd fel celfyddydwr; " meddai ar ddawn neillduol i ddychymygu a gweithio ceryg yn gistiau ar feddau, cistiau mewn tai, a chimmney pieces, ynghyda lliaws o bethau tra chywrain o'i waith a welir yn Nghymru a Lloegr, yr hyn a enillai sylw a ffafr perchenog y gwaith i raddau mawr. Yr oedd yn hynod o ran ei alluoedd i ddysgu unrhyw beth a feddyliai am dano." Bu farw Ionawr 27, 1840, trwy i ddarn o graig syrthio arno yn nghloddfa llechi Aberllefeny. Gadawodd. wraig a phump o blant i alaru ar ei ol.