Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owain ab Cadwgan ab Bleddyn
← Morris, Parch. Lewis | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owain ab Gwilym → |
OWAIN AB CADWGAN AB BLEDDYN, o'r Nannau, a thywysog Powys, a dreuliodd fore ei oes mewn afradlonedd, trythyllwch, a gwrthryfel. Pan roddai ei dad wledd i'w benaethiaid yn Aberteifi, yn ystod gwyliau y Nadolig 1107, soniai un o'r gwahoddedigion am degwch personol Nest, merch i Rhys ab Tewdwr, a gwraig Gerald de Windsor, cwnstabl castell Penfro, ac enynwyd trachwant Owain tuag ati. Ymwelodd â Phenfro; a thrwy ei berthynas â'r teulu cafodd dderbyniad croesawgar, ac ad-dalodd yntau y caredigrwydd trwy roddi y castell ar dân, dwyn Nest ymaith, a bu agos i Gerald golli ei fywyd yn y dinystr. Parodd y weithred anfad hon ofidiau chwerwon i'w dad, a bu raid iddo, er osgoi dialedd y Saeson, ffoi i'r Iwerddon. Pa fodd bynag, cafwyd heddwch ymhen ysbaid, a dychwelodd y tad a'r mab yn ol i'w gwlad. Yn 1110 Owain a olynodd ei dad fel Tywysog Powys, a chafodd ar ol hyny dderbyniad i ffafr Harri I., gyda'r hwn yr aeth i Normandi, lle y gwnaed ef yn farchog ganddo. Lladdwyd ef gan Gerald de Windsor, yn 1114.—(Brut y Tywysogion.)