Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owen, Parch. Hugh, Bronylcydwr
← Owen, Parch. Henry, M.D. | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owen, John, D.D. → |
OWEN, Parch. HUGH, o Fronylcydwr, ymneillduwr enwog yn yr 17eg ganrif, a anwyd yn Mronylcydwr, plwyf Llanegryn, yn nghantref Meirionydd, yn 1637. Yr oedd ei dad yn byw ar ei dir ei hun,—Humphrey Owen, ac yn hanu o hen deulu parchus―yn fab i John Owen, yr hwn oedd yn ail fab i John Lewis Owen, o'r Llwyn, A.S. dros Feirion, ac yntau yn fab hynaf i Lewis Owen, is—ystafellydd Gwynedd, yr hwn a lofruddiwyd yn 1555, gan Wylliaid Cochion Mawddwy. Addysgwyd ef yn Rhydychain, ac yr oedd yn ymgeisydd am urddau eglwysig pan wnaed deddf seneddol Bartholomew, a thua'r amser hwnw symudodd yntau o Rydychain i Lundain. Dychwelodd yn fuan i'w wlad enedigol, lle y trigianodd o hyny allan ar ei etifeddiaeth fechan Bronyclydwr, gan ymgyflwyno i'r gwaith o bregethu yr efengyl ymhlith ei gydwladwyr tywyll a thylodion. Yr oedd yn ddyn galluog, efengylaidd, llafurus, a charedig, ac elusengar. Bu farw yn 1699, yn 62 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanegryn.——(Noncon. in Wales; Cambro—British Bio.; Wms. Em. Welsh.; Traethodydd am 1852, 290; Traethodydd, 1868, 295.) Ynglŷn â'r uchod, y mae un arall o'r un teulu nas gallwn fyned heibio iddo heb ei grybwyll—" Yr Hen Dr. Owen."