Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owens, Parch. Owen, Rhosycae

Oddi ar Wicidestun
Owen, Lewis, y Barwn Owen Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Price, Parch. W., M.A., Dolgellau

OWENS, Parch. OWEN, Rhosycae, a anwyd yn Maesynghared, tyddyn bychan, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, Awst 21, 1792. Cafodd ysgol pan yn ieuanc. Yn Mai 23, 1811, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan yr Annibynwyr yn Nolgellau. Yn 1817 priododd weddw ieuanc barchus o Ddolgellau, o'r enw Ann Jones. Wedi hyny aeth i Ddinas Mawddwy i gadw ysgol, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn Mai 23, 1821, symudodd i Rosycae, ac ar y 30ain o Hydref canlynol urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol y lle hwnw. Yr oedd ei gof yn hynod gryf, ac yr oedd yn hynod o benderfynol dros yr hyn a ystyriai yn iawn. Er na fu erioed mewn athrofa, ac na chafodd lawer o ysgol gyffredin, eto yr oedd yn alluog i bregethu yn Saesneg, pan elwid am hyny. Yr oedd yn bregethwr sywleddol a buddiol iawn, ac yn "Galfin cymedrol," fel y dywedir o ran ei farn. Y mae lliaws o erthyglau o'i eiddo wedi ymddangos yn y Dysgedydd. Hefyd cyhoeddodd a helaethodd Holwyddoreg yr Ymneillduwyr Protestanaidd y Parch. S. Palmer. Bu farw Hydref 13, 1862, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf, Nannerch, y dydd Gwener canlynol.

Nodiadau

[golygu]