Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Phylip, Rhisiart

Oddi ar Wicidestun
Phylip, Phylip Sion Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Phylip, Sion

PHILLIP, RHISIART, brawd arall i Gruffydd a Phylip Sion Phylip, ac yn fab i Sion Phylip,[1] o Fochras. Yr oedd yntau yn fardd da, ac y mae ychydig o'i waith ar gael, ymhlith y rhai y ceir marwnad i Mr. Maurice Jones, o Benmorfa, Swydd Gaernarfon, y? hwn a fu farw yn 1624. (Dywed rhai mai brawd i Sion Phylip oedd y Rhisiart Phylip uchod, ond nid ydym ni yn alluog i ben derfynu).


Nodiadau[golygu]

  1. Brawd i Siôn Phylip ac ewythr i Gruffudd Phylip a Phylip Siôn Phylip oedd Rhisiart Phylip, mewn gwirionedd